Dr Olwen Williams yn cyhoeddi enillydd etholiad 2023 ar gyfer swydd is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru ac yn annog hyfforddeion i arddangos eu gwaith drwy ein cystadlaethau blynyddol: mae cynllun darlithydd Turner-Warwick nawr yn derbyn crynodebau ac mae cystadleuaeth posteri Cymru yn agor ar 1 Ebrill.
Wel, wnaethon ni ddim ennill y llwy bren, ond roedd perfformiad tîm rygbi’r dynion ymhell islaw’r safon yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni. Croesi bysedd y gwelwn ni welliant erbyn dechrau Cwpan Rygbi’r Byd yn Ffrainc yn yr hydref – ac oes, mae gen i docynnau!
I ddechrau, rwy’n falch dros ben o gyhoeddi heddiw fod Dr Hilary Williams wedi cael ei hethol fel olynydd imi – llongyfarchiadau Hilary. Hilary fydd pedwerydd is-lywydd yr RCP dros Gymru a’r ail fenyw i ddal y swydd. Mae’n dwyn yn ei sgil gyfoeth o brofiad: fel hyrwyddwr dros feddygon dan hyfforddiant, chwaraeodd ran arweiniol i siapio cystadleuaeth posteri Cymru a’n cynhadledd flynyddol Y diweddaraf mewn meddygaeth hefyd. Ar hyn o bryd mae Hilary yn ymgynghorydd mewn oncoleg feddygol yn Felindre, a daeth yn gynghorydd rhanbarthol i RCP dros dde-ddwyrain Cymru yn 2018 cyn cael ei hethol i Gyngor RCP yn 2022. Mae’n aelod-sefydlydd gweithgar o Gymdeithas Oncoleg Acíwt y Deyrnas Unedig, yn Arweinydd oncoleg acíwt i Rwydwaith Canser Cenedlaethol Cymru, ac yn fentor i raglen Arweinwyr Datblygol i Fenywod yr RCP.
Bydd Hilary a minnau yn cydweithio dros y misoedd nesaf nes byddaf yn trosglwyddo’r awenau iddi yn swyddogol ym mis Gorffennaf. Law yn llaw â gweddill Pwyllgor RCP Cymru, rydym wedi cytuno ar raglen waith sy’n cynnwys prosiectau ar y gweithlu Arbenigedd ac Arbenigwyr (SAS), anghydraddoldebau iechyd, arweinyddiaeth glinigol a gofal integredig. Os hoffech ddysgu rhagor am ein cynlluniau, neu gyfranogi, cysylltwch â Lowri.Jackson@rcp.ac.uk.
Nawr bod Hilary wedi cael ei hethol, rydyn ni’n chwilio am gynghorydd rhanbarthol newydd ar gyfer canol de Cymru, i fod yn gyfrifol am BIP Caerdydd a’r Fro, BIP Cwm Taf Morgannwg neu Ganolfan Ganser Felindre. Os hoffech chi ymuno â’n tîm angerddol, brwdfrydig a dylanwadol, ystyriwch wneud cais. Y dyddiad cau ydy 31 Mawrth ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan.
Dros yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi ymuno ag ymweliadau AaGIC ag Ysbyty Brenhinol Gwent, y Faenor ac Ysbyty Athrofaol Cymru. Digwyddodd hyn yn dilyn ein hymweliadau Cyswllt ag ysbytai eraill ac mae’n gam cadarnhaol ymlaen at sut rydyn ni’n gweithio gydag AaGIC i sicrhau hyfforddiant meddygol o safon uchel. Rwy’n falch o ddweud bod y canfyddiadau cyn belled yn cyd-fynd â’n hargymhellion o ymweliadau blaenorol, felly rwy’n obeithiol y gwelwn weithredu brys gan y byrddau iechyd dan sylw. Os ydych chi’n gweithio yn Ysbyty Tywysoges Cymru, cofiwch ymuno â ni ar 27 Ebrill ar gyfer ein hymweliad Cyswllt nesaf. Cysylltwch i gael rhagor o fanylion.
Yn gynharach yn y mis, fe wnaethom gyflwyno ein hymgyrch am gynllun gweithredu ar draws llywodraethau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd gerbron uwchgynhadledd costau byw Cymru a drefnwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gyda dros 150 yn bresennol, clywyd negeseuon grymus iawn am sut allwn ni fel clinigwyr ddylanwadu ar newid. Gwn y bydd Hilary eisiau datblygu’r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.
Cyhoeddwyd Cyllideb Wanwyn 2023 yn ystod y mis. I’r rhai sy’n ei chael yn anodd gyda chostau byw cynyddol, ychydig oedd i’w ddathlu o bosibl; fel meddygon, rydyn ni i gyd yn gweld effaith tlodi ar iechyd ein poblogaeth. Rydyn ni oll yn eiriolwyr dros ein cleifion, a dylem dynnu sylw at y problemau maent yn eu hwynebu ar bob cyfle. Fodd bynnag, fel rhywun sydd â budd yn y ffordd rydyn ni'n cadw uwch feddygon yn y GIG, roeddwn yn croesawu’r cyhoeddiad yng nghyllideb Canghellor y Trysorlys ar reolau pensiwn. Roedd hefyd yn braf gweld mesurau i ehangu’r ddarpariaeth gofal plant. Yn siomedig, ni chyhoeddwyd dim cyllid i gefnogi myfyrwyr sy’n astudio meddygaeth.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Dr Jacob Daniel, a fu’n gynrychiolydd SAS i RCP Cymru ers sawl blwyddyn. Bu’n eiriolwr ymroddedig ac angerddol dros feddygon SAS a dymunwn y gorau i Jacob yn ei swydd newydd yn Lloegr. Wrth gwrs, mae hyn yn golygu ein bod ni’n awr yn paratoi i recriwtio Arweinydd SAS newydd i Gymru – mae ein rhwydwaith SAS yn mynd o nerth i nerth, gyda chynlluniau cyffrous ar y gweill. Rydym wedi gwahodd Dr Ian Collings (AaGIC) a Dr Jamie Read (Arweinydd SAS RCP UK) i siarad gerbron Academi’r Colegau Brenhinol yng Nghymru ym mis Mehefin am sut all colegau brenhinol gefnogi’r grŵp holl bwysig hwn o feddygon orau.
Rwy’n falch o ddweud bod llywodraeth y Deyrnas Unedig o’r diwedd wedi cyhoeddi ei hymgynghoriad ar ddeddfwriaeth ddrafft i ddwyn meddygon cyswllt (PAs) i’r rheoliadau erbyn diwedd 2024. Gallwch gyflwyno sylwadau hyd at 16 Mai a byddwn yn eich annog chi oll i gefnogi’r cam nesaf pwysig hwn i feddygon cyswllt.
Ar nodyn gwahanol, mae comisiynydd pobl hŷn Cymru wedi lansio arweiniad newydd am hawliau pobl pan maent yn symud i mewn, a phan maent yn byw mewn cartref gofal. Maent hefyd wedi lansio cyfeiriadur gwasanaethau sy’n cynnwys manylion pwy ddylid cysylltu â nhw os oes person hŷn yn dioddef oherwydd camdriniaeth.
Yn olaf, os ydych yn gymrawd i’r RCP, cofiwch fanteisio ar eich hawl i bleidleisio yn etholiadau'r RCP am lywydd, uwch sensor/is-lywydd addysg a hyfforddiant a chynghorydd. Mae gennych tan ganol dydd ar 3 Ebrill 2023 i fwrw eich pleidlais.
Cadwch yn saff.
Dr Olwen Williams OBE
RCP vice president for Wales
Consultant in sexual health and HIV medicine