Yn ei blog newydd, mae Dr Olwen Williams yn ystyried y ffordd orau o gadw meddygon yng ngweithlu GIG Cymru, yn rhoi diolch i gydweithwyr yn Ysbyty Tywysoges Cymru am ymweliad Cyswllt llwyddiannus ac yn cyhoeddi rhai newidiadau i dîm cynghorwyr rhanbarthol RCP Cymru Wales.
Mae’r gwanwyn wedi cyrraedd, ond does dal ddim sôn am wenoliaid yma yng Ngogledd Cymru. Mae’r dyddiau yn cynhesu, ond mae’r nosweithiau’n oer, gan ei gwneud hi’n anodd iawn i arddwyr. Fodd bynnag, rwy’n falch iawn o ddweud bod oriau anghymdeithasol y tymor wyna drosodd o’r diwedd!
Wrth imi gamu mewn i wythnosau olaf fy swydd fel is-lywydd, rwyf wedi bod yn myfyrio llawer iawn, fel allwch chi ddychmygu. Dechreuais yn fy swydd gwpl o fisoedd cyn cyhoeddi’r cyfnod clo cyntaf. Bu’n rhaid inni oll ddysgu’n sydyn mewn amser byr wrth weithio drwy’r pandemig, ac mae llawer o feddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill wedi cael eu hunain yn ail-werthuso’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw, sut i fod yn hapus a lle i gael llawenydd. Aethom i mewn i COVID-19 yn wynebu argyfwng yn y gweithlu – ac ychydig iawn mae’r 3 blynedd diwethaf wedi’i wneud i wella’r sefyllfa.
Yn awr, mae Llywodraeth Cymru (ynghyd â’n cydweithwyr mewn colegau brenhinol eraill) wedi gofyn inni ystyried sut orau i ddenu a chadw meddygon yng Nghymru, a beth sy’n cael ei wneud mewn llefydd eraill i gadw meddygon yng ngweithlu’r GIG? Mae sgyrsiau am gyflogau a chontractau yn cael eu harwain gan y Gymdeithas Feddygol Brydeinig wrth gwrs, ond mae’r sgwrs hon yn trafod y manteision ehangach. A oes gennych chi astudiaeth achos y gallech ei rhannu? Beth mae eich tîm yn ei wneud i ddenu a chadw cydweithwyr yn lleol? A gawn ni arddangos eich gwaith arloesol i Lywodraeth Cymru? Cofiwch anfon eich syniadau a’ch esiamplau at Lowri.Jackson@rcp.ac.uk er mwyn inni gael rhannu’r arferion gorau yn eang.
Ar nodyn cysylltiedig, mae Pwyllgor Cyllid y Senedd yn gofyn am fewnbwn gan weithwyr iechyd proffesiynol ar gynlluniau gwario Llywodraeth Cymru. Ym Mehefin 2023, maent yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws, yn gofyn ‘beth hoffech chi weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei gwariant arno?’ A fyddech gystal â llenwi'r arolwg hwn heddiw (Gwener 26 Mai) am gyfle i gymryd rhan yn y grwpiau ffocws.
Yn ystod fy amser fel is-lywydd, un o’r agweddau mwyaf pleserus fu ein hymweliadau ag ysbytai drwy’r cynllun Cyswllt RCP Connect. Rwyf wedi ymweld â bron pob un o’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau yng Nghymru, naill ai’n bersonol neu’n rhithiol yn ystod y pandemig. Rhoddodd yr ymweliadau gyfle inni ddathlu ac arddangos datblygiadau arloesol a’r gwersi a ddysgwyd. Maent hefyd yn rhoi’r cyfle inni weld ‘sut mae’r gwynt yn chwythu’ ymysg aelodau – sut mae’r hwyliau yn lleol? Sut mae lles y gweithlu? Pa heriau a chyfyngiadau mae ein haelodau a’n cymheiriaid yn eu hwynebu? Cafodd ein cyfarfodydd gryn effaith, ac yn ddiweddar, cawsom wahoddiad i ymuno ag ymweliadau ansawdd Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar gyfer eu harbenigeddau meddygol.
Yn gynharach yn y mis, cawsom groeso cynnes gan Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Clywsom am waith dan arweiniad ymgynghorwyr: Drs John Hounsell, Madhu Kannan ac Aaron Wong, a hyfforddeion: Drs Keiron Morgan, Ben Pryke a Daniah Thomas i ddatblygu’r prosiect Life@Work. Byddwn yn ysgrifennu adroddiad ar y diwrnod i’w rannu gyda chi oll, a byddaf yn dilyn y gwaith hwn â diddordeb. Diolch o galon i bawb a gyflwynodd ac a gyfrannodd adborth i’n tîm.
Hoffwn grybwyll hefyd fframwaith ymchwil a datblygu newydd y GIG a ddatblygwyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, drwy weithio ag amrediad eang o randdeiliaid i ddewis themâu allweddol ar gyfer 'rhagoriaeth ymchwil'. Cynhelir ymgynghoriad ar y fframwaith drafft tan 1 Mehefin 2023. Byddwn yn eich annog chi oll i gymryd golwg ac ymateb gyda’ch syniadau.
A nawr am ychydig o newyddion am Goleg Brenhinol y Meddygon! Rwy’n falch dros ben o gyhoeddi bod Dr Andrew Lansdown wedi cael ei benodi fel cynghorydd rhanbarthol ar gyfer ardal canol de Cymru, gan gymryd yr awenau oddi wrth Dr Hilary Williams pan ddaw hi yn is-lywydd newydd i Gymru ar 1 Gorffennaf 2023. Bu Andrew yn rhan o dîm RCP Cymru er 2012 pan ddaeth yn un o diwtoriaid coleg cyswllt RCP yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Yn 2017 fe’i penodwyd yn ymgynghorydd-gynrychiolydd newydd ar gyfer de Cymru ac yn 2020 daeth yn diwtor coleg RCP i’r Ysbyty Athrofaol ac yn ddiweddarach yn diwtor coleg arweiniol i Gymru. Hoffwn ddiolch i’r tri ymgeisydd ardderchog arall a gyflwynodd eu hunain ar gyfer y rôl.
Rwy’n falch iawn bod gan yr RCP yng Nghymru aelodau mor weithgar sydd eisiau bwrw ein gwaith ymlaen – ac ar y nodyn hwnnw, gallwch ddarllen blog newydd gan Hilary am paham y daeth hi’n gynghorydd rhanbarthol yn y lle cyntaf. Yn wir, mae yna swyddi gwag ar gyfer tiwtoriaid coleg RCP yn yr Ysbyty Athrofaol ac yn Ysbyty Llwynhelyg ar hyn o bryd, ac os ydych chi’n ymgynghorydd neu’n feddyg SAS sydd â diddordeb mewn addysg feddygol a chefnogi hyfforddeion, e-bostiwch Wales@rcp.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. Mae dod yn diwtor coleg yn ffordd wych o ddechrau eich gyrfa gyda’r RCP, a gall arwain at bob math o gyfleoedd cyffrous, felly cofiwch ystyried hyn.
Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru.