Yn rhifyn y mis yma o’r blog, mae Dr Hilary Williams, is-lywydd Cymru RCP, yn ysgrifennu am set sgiliau uwch ffisegwr a chrefft gwneud penderfyniadau clinigol. Mae hefyd yn atgoffa cydweithwyr fod tocynnau ar gyfer Diweddariad mewn meddygaeth 2023 – Caerdydd ar werth yn awr a’i bod yn edrych ymlaen at weld pawb ar 9 Tachwedd.
Medicine is an art, not just a science. Fel y dywedodd rhywun rywbryd ‘dyma’r mwyaf gwyddonol o’r celfyddydau a’r mwyaf artistig o’r gwyddorau’, ac rwy’n credu bod hynny’n wir.
Mae ffisegwyr ymgynghorol yn treulio 10 mlynedd dan hyfforddiant; ac mae hyn yn ychwanegol at yr ysgol feddygol, ac ar ôl i chi ystyried patrymau gweithio hyblyg, absenoldeb i rieni, amser i wneud ymchwil, addysg neu hyfforddiant, bydd llawer ohonom yn treulio degawdau yn dysgu ein crefft ac yn datblygu ein set sgiliau.
Felly, beth sy’n gwneud uwch feddyg yn werthfawr? A yw’r system yn deall yr hyn sydd ei angen i fod yn uwch feddyg yn y DU ar hyn o bryd? Gadewch inni ddechrau gyda rhywbeth nad ydym yn siarad digon amdano. Beth mae’n ei olygu i fod yn ymgynghorydd ar alw mewn meddygaeth acíwt? Mi all deimlo fel ei fod yn isel ei barch, ond eto mae’n gofyn am y set sgiliau â’r gofynion mwyaf. Yn achos pob claf, rydym eisiau gwneud y peth iawn, ond fwyfwy, mae hyn yn fwy na rheoli un salwch y gellir ei wyrdroi; mae’n golygu penderfynu beth sydd ei angen ar y claf ar yr union adeg honno (a’r hyn y gallwn ei wneud yn realistig ar eu cyfer gydag adnoddau ac amser prin).
Mae gweithlu’r GIG yn flaenllaw yn ein meddyliau. Rydym yn byw gyda bylchau parhaus mewn rotas a heb ddigon o staff ar gyfer gwasanaethau. Mae gennym lai o feddygon y pen na’n cymdogion Ewropeaidd, ond eto mae galwadau cleifion yn parhau i gynyddu, ac mae cymysgedd o achosion yn mynd yn fwy cymhleth bob dydd.
Gofynnais i’n cynghorydd rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, Dr Sam Rice, am ei deimladau am hyn. Mae Sam yn endocrinolegydd ymgynghorol ac mae ar y rota GIM yn Llanelli. Eglurodd hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd o addysg feddygol, ‘Roeddwn yn dal i deimlo nad oeddwn wedi fy mharatoi’n ddigonol i fod yn ymgynghorydd GIM ar-alw pan wnes i ddechrau. Rydych ar eich gwannaf: mae disgwyl i chi gael yr un set sgiliau ar unwaith â rhywun sydd ag 20 mlynedd o brofiad, ond ni allwch byth fod gystal’.
Fel ymgynghorydd newydd, cynyddodd Sam nifer ei shifftiau ar-alw GM er mwyn ennill profiad yn gyflymach. Meddai: ‘Roedd yn teimlo fel dysgu gyrru. Dim ond ar ôl i chi basio eich prawf rydych yn dechrau dysgu rheolau’r ffordd o ddifrif.’ Mae’r gallu i wneud penderfyniadau cymhleth sydd wedi’u seilio ar hanes y claf yn dod drwy ymarfer. ‘Mae holl systemau ein hysbytai’n dibynnu ar allu’r ffisegwr wrth ddrws ffrynt yr ysbyty i wneud y penderfyniadau hyn yn ddiogel a chyflym,’ meddai. ‘Nid oes a wnelo sgil diagnostig ddim â chyflwyniadau mewn llyfrau gosod; yr ymgyflwyniadau annodweddiadol sy’n gallu eich drysu.’
Fel meddygon, nid oes gennym amser yn aml i chwilio am bethau mewn llyfrau gosod. Mae penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn wardiau swnllyd gyda larymau’n canu, wrth aros am gyfrifiaduron, wrth aros am lifftiau, wrth chwilio am gleifion mewn wardiau llawfeddygol, yn gynnar yn y bore, yn hwyr yn y nos ac yn anffodus gyda chleifion dryslyd a thrallodus mewn coridorau. Mae gwneud y diagnosis cywir yn ddigon cyflym i gychwyn ar driniaethau. Mae amser yn bwysig. Mae penderfyniadau cyflym a diogel yn bwysig. Rhaid i uwch feddygon fod â gwybodaeth fanwl am glefyd, profiad drwy wneud y gwaith, a'r gallu i wneud penderfyniadau dan bwysau sy’n seiliedig ar ffactorau critigol gyda sŵn pwysau’r gwasanaeth ym mhob man o’ch cwmpas.
Mae ein cynghorydd rhanbarthol yng nghanol de Cymru, Dr Andrew Lansdown, yn endocrinolegydd ymgynghorol yng Nghaerdydd. ‘I mi, mae cadw’r cyffyrddiad dynol yn fyw pan fydd 30 o gleifion yn aros yn dipyn o gamp ynddi’i hun,’ meddai. ‘Mae’r arbenigeddau sydd eu hangen arnom fel meddygon – barn glinigol, gofal tosturiol, rheoli sawl cyflwr mewn modd cyfannol – mae’n cymryd blynyddoedd i ddatblygu’r sgiliau hyn, ac os ydym am fod yn gwbl onest â ni ein hunain, maent yn bethau rydym yn eu datblygu drwy gydol ein gyrfaoedd a’n bywydau.’
Ac wrth gwrs – mae’n fwy na’r claf sy’n sefyll o’ch blaen. Fel ymgynghorydd, rydych yn arweinydd tîm, yn benderfynwr, yn athro, a chyfathrebwr. Dim ond rhan o’r hyn rydym yn ei wneud yw arwain yr ar-alwad: beth am wella’r gwasanaeth, archwilio, moeseg, llywodraethu, goruchwylio, ymchwil. Datblygu timau? Sut wyf yn mynd i gofio cwestiynu popeth o fy nghwmpas? Nid wyf yn glinigydd salach os byddaf yn anghofio gofyn cwestiynau.
Mewn rhyw ffordd ryfedd, po hwyaf rwyf yn feddyg, po fwyaf rwyf yn gwerthfawrogi’r hyn rwyf yn ei wneud. Mae’n golygu cau allan y sŵn a chanfod y darn olaf o’r jig-so. Gwneud diagnosis os bydd rhywbeth nad yw’n gwneud synnwyr llwyr. Mae’n drafodaeth bwysig y mae angen inni ei chael â’n gilydd yn yr RCP, ac â’r gymuned glinigol ehangach. Mae gennym y set sgiliau sydd ei hangen ar gleifion ac maent yn ei gwerthfawrogi – felly sut allwn ni hyrwyddo a chydnabod yn well y meddwl beirniadol, yr wybodaeth a’r dyfnder profiad y gallwn ni fel uwch glinigwyr eu rhannu â’n cleifion?
Yn olaf, gan ein bod yn sôn am ddysgu pethau newydd, gadewch imi eich atgoffa bod ein Diweddariad mewn meddygaeth 2023 – Caerdydd ar y gorwel. Byddwn yn ôl yng ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd eleni am ddiwrnod llawn arall o siaradwyr diddorol ar ddydd Iau 9 Tachwedd. Gwiriwch ein rhaglen ac archebwch eich lle yn awr. Mi fydd pob lle yn y gynhadledd yn cael ei lenwi bob blwyddyn, felly os nad ydych am gael eich siomi – peidiwch â gadael pethau tan y funud olaf! Rydym yn clywed bob blwyddyn am gynrychiolwyr nad ydynt yn llwyddo i gael tocyn am eu bod wedi ei gadael yn rhy hwyr. Os ydych yn feddyg SAS, rydym hefyd yn cynnal digwyddiad rhyngweithio wyneb yn wyneb gyda llywydd yr RCP president, Dr Sarah Clarke ddydd Mercher 8 Tachwedd. Gyda dim ond rhyw 7 wythnos i fynd, rwyf yn dechrau edrych ymlaen yn barod at eich gweld i gyd unwaith eto!
Dr Hilary Williams
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru.