Yn ei blog mis Awst, mae Dr Hilary Williams, Is Lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru, yn gofyn i’n cynghorwyr rhanbarthol sut maen nhw’n treulio eu gwyliau a pham wnaethon nhw ddewis meddygaeth yn y lle cyntaf. Gallwch gadw lle erbyn hyn yn Niweddariad Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghaerdydd, a gallwch lawrlwytho ein podlediad fideo diweddaraf ‘In conversation with…’ gyda Dr Olwen Williams.
Wrth ysgrifennu, mae’n heulog y tu allan o’r diwedd. Gobeithio bod hynny’n golygu bod pobl yn mwynhau rhywfaint o amser i ffwrdd - efallai diwrnod gyda'r plant neu’n mynd am dro gyda'r cŵn? Ydych chi allan ar y bryniau neu ar y traeth? Efallai eich bod yn mwynhau ychydig o lonyddwch yn yr ardd.
Ble bynnag rydych chi, mae mis Awst yn gyfnod rhyfedd yn y GIG. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yn fis tawelach, yn gyfle i gael ein gwynt atom, ond wrth gwrs, mae’r cyfan yn newid i’n hyfforddeion. Felly, croeso cynnes i gydweithwyr meddygon iau sy’n ymuno â ni yng Nghymru a'r rhai sy'n cychwyn ar eu siwrnai mewn hyfforddiant arbenigol uwch. I’r cofrestryddion meddygol newydd allan yna - rydyn ni i gyd yn gefnogol i chi! Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi bod yn ‘med reg’ ar ryw adeg ac mae'n parhau i fod yn un o'r rolau mwyaf allweddol a heriol yn yr ysbyty – os nad y mwyaf. Mae bod yn ‘med reg’ yn golygu cymryd sylfaen wybodaeth gadarn iawn a'i chyfuno â'r gallu i wneud penderfyniadau cyflym ar sail llu o ffactorau; ac yn anad dim, i arwain tîm mewn ffordd ddiogel ac effeithiol er mwyn darparu gofal o ansawdd uchel i gleifion.
Mae meddygaeth yn ymwneud â gwaith tîm, felly croeso i’n meddygon sylfaen newydd sy'n ymuno â ni ar ôl blynyddoedd lawer o arholiadau, adolygu, profiad gwaith ac ymrwymiad; i'n meddygon arbenigol, meddygon cyswllt arbenigol a meddygon sy’n cael eu cyflogi’n lleol; ein graddedigion meddygol rhyngwladol a’n meddygon ymgynghorol newydd. Mae pob un ohonoch yn chwarae rhan hollbwysig o fewn y GIG yng Nghymru, ac os ydych wedi cael eich hyfforddi'n lleol, rhywle arall yn y DU, neu'n rhyngwladol, rydych chi'n rhan o gymuned meddygon Cymru ac mae gennych lais o fewn y gymuned honno. Er yn gyfnod cythryblus, mae bod yn feddyg yn dal i fod yn fraint aruthrol ac mae ein cleifion ein hangen yn fwy nag erioed.
Yn y bwletin hwn, byddaf yn proffilio tîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, gan ddechrau gyda’n cynghorwyr rhanbarthol a chynrychiolydd o Bwyllgor y Meddygon Ymgynghorol Newydd (NCC) - Dr Vivek Goel (de-ddwyrain Cymru), Dr Sam Rice (de-orllewin Cymru), Dr Ben Thomas (gogledd Cymru), Dr Andrew Lansdown (canol de Cymru) a Dr Justyna Witczak (NCC). I ddechrau, fe ofynnais i'r tîm am eu cyngor i newydd-ddyfodiaid. Dyma ddetholiad o'u geiriau doeth:
‘Mwynhewch eich gwaith. Byddwch yn falch o fod yn un o'r meddygon gorau yn yr ysbyty – mae'n set anhygoel o sgiliau … Syrthiwch mewn cariad â meddygaeth a byddwch yn angerddol … Manteisiwch ar y cyfle i ddysgu triniaethau, gofynnwch gwestiynau a gofynnwch am help a chyngor … Bydd dogfennaeth glir a chynhwysfawr yn arbed amser i chi a’ch meddyg ymgynghorol yn y pen draw … Gall gwaith tîm effeithiol dynnu'r straen o nifer o sefyllfaoedd heriol. Dewch i adnabod eich cydweithwyr gofal dwys a’r nyrsys profiadol – maen nhw’n aml yn gwybod pwy yw pawb a sut mae’r ysbyty’n gweithio go iawn … Peidiwch â theimlo dan bwysau i wybod popeth fel y ‘med reg’ – mae'n iawn gofyn am help … Byddwch yn garedig i chi'ch hun – rydyn ni ond cystal ag y gallwn fod. Mae digon da yn ffantastig, mae perffeithrwydd yn amhosib … Gadewch eich gwaith yn y gwaith … Cofiwch yr amseroedd y gwnaethoch wahaniaeth - mae'n amlach nag rydych chi'n ei feddwl. Mae meddygaeth yn wych’.
Mae’r tîm yng Nghymru yn falch o’n perthynas gref gyda’r gweithlu clinigol - ein cymrodyr a'n haelodau ar lawr gwlad. Rydyn ni’n rhagweithiol wrth ymweld ag ysbytai – fel coleg ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) – gan ofyn am yr heriau sy’n wynebu’r rheini sy’n darparu gofal meddygol acíwt. Rydyn ni eisiau clywed am eich profiadau wrth redeg clinigau cleifion allanol, dysgu meddygon iau ac arwain prosiectau gwella ansawdd ac ymchwil. Po fwyaf y byddwn yn gwrando arnoch chi, y gorau y gallwn eich cynrychioli. Peidiwch byth ag oedi cyn cysylltu â Lowri.Jackson@rcp.ac.uk gydag unrhyw bryderon.
Fis yma, fe ofynnais i'n cynghorwyr rhanbarthol a chynrychiolydd y NCC sut wnaethon nhw ddewis eu harbenigedd. Justyna atebodd gyntaf: ‘Fe wnes i ddewis endocrinoleg oherwydd mae'n teimlo fel gwaith ditectif. Mae'n ysgogol yn feddyliol, yn bleserus ac yn teimlo fel datrys pos’, a dywedodd Sam ‘mae endocrinoleg yn ddiddorol, mae'n canolbwyntio ar y claf, ac anaml y byddwch chi'n cael cwestiwn y tu allan i oriau gwaith!’ Cytunodd Andrew: ‘mae endocrinoleg yn rhesymegol. Mae’n parhau’n ddiddorol ac mae wastad rhywbeth newydd i’w ddysgu.’ Pan ofynnwyd i Vivek pam y dewisodd gastroenteroleg, dywedodd ‘mae'n ymwneud â'r triniaethau’, tra bod Ben, meddyg ymgynghorol arennol, yn ystyried clefyd yr arennau fel ‘y bastiwn olaf mewn meddygaeth gyffredinol’.
Fel tîm, rydyn ni wedi hyfforddi a gweithio ar draws Cymru, yr Alban, Lloegr, India a Gwlad Pwyl, ond rydyn ni i gyd yn cytuno pam rydyn ni wedi dewis gweithio yng Nghymru: y gwaith tîm, y cydweithwyr, a’r gymuned feddygol glos sy’n cefnogi ei gilydd. Mae pawb yn nabod pawb: mae’n lle cyfeillgar i weithio ac i ddysgu, gyda digon o gyfeillgarwch. Mae’r ffaith bod Cymru yn fach o ran maint yn golygu bod gennym ni bŵer go iawn yn lleol i wneud gwahaniaeth yn genedlaethol ac i greu newid gwirioneddol y tu hwnt i’n safle ein hunain.
Ond nid clinigau, wardiau a dysgu yw’r unig beth serch hynny. Beth am amser i ffwrdd? Gofynnais i Vivek, Sam, Ben, Andrew a Justyna am eu hargymhellion: sut maen nhw’n ymlacio pan nad ydyn nhw’n y gwaith?
Dywedodd Ben, sy’n byw yn Wrecsam, ei fod yn caru'r olygfa o Ddinbych-y-pysgod tuag at yr orsaf badau achub, yng nghwmni pice ar y maen ffres oddi ar y radell tra’n gwrando ar bodlediad, y Stereophonics neu’n gwylio criced. Ni allai Sam, sy'n gweithio yn Llanelli, ddewis ei hoff olygfa: ‘mae cymaint ohonyn nhw,’ dywedodd, ‘Three Cliffs Bay, Rhosili, Harbwr Aberdyfi, aber y Fawddach … maen nhw i gyd yn llefydd go arbennig i redeg ar y traeth.’ I ymlacio, mae’n argymell peint o Gower Gold neu efallai gwydryn o rym Barti Ddu, sydd wedi’i drwytho gyda gwymon Sir Benfro, gyda chacennau o'r caffi ym Mhennard.
Dewisodd Vivek sy’n gweithio yng Ngwent, daith mewn car drwy ganolbarth Cymru fel ei gyrchfan wyliau o ddewis, yn ogystal â pheint o Brains a phrynhawn hamddenol yn darllen papur newydd. Dewisodd Andrew, sy’n gweithio yng Nghaerdydd, Harbwr Dinbych-y-pysgod hefyd am bice ar y maen cartref a chwpanaid o de, a sesiwn yn y gampfa ar ddiwedd diwrnod hir yn y GIG. I gloi, mae Justyna, sydd ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd, ac yn gweithio yng Nghaerdydd hefyd, wedi dewis taith gerdded hir gyda’i theulu a’i chi, Simba - yn ddelfrydol yn ardal y rhaeadrau ym Mannau Brycheiniog, cyn mwynhau cannoli ym Mhenarth.
Wrth i wyliau’r haf ddirwyn i ben, rydw i am i chi gyd gofio pa mor wych rydych chi'n ei wneud yn eich gwaith. Ceisiwch ddal gafael ar hynny pan mae'r dyddiau'n ymddangos yn hir, shifft arall ar y gorwel a'r heriau o weithio yn y GIG yn teimlo’n anodd. Defnyddiwch eich gwyliau blynyddol - cymerwch amser i ffwrdd o'r gwaith neu beth am ddefnyddio ein hargymhellion hyd yn oed ar ble i ddod o hyd i'r golygfeydd a'r cacennau gorau yng Nghymru. Neu anfonwch eich argymhellion chi atom ni? Rydw i wrthi’n cynllunio fy nhrip i aber y Fawddach yn barod gyda photel o rym Cymreig.
Dr Hilary Williams
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru.