'Wrth i'r GIG ddathlu 73 mlynedd o ofal cleifion, mae Dr Olwen Williams yn ysgrifennau am waith caled ac ymroddiad meddygon wrth hyfforddi a thiwtoriaid coleg cysylltiol yng Nghymru.
Anrhegion pen-blwydd
Wrth inni ddathlu 73 blynedd o'r GIG a mwynhau'r newyddion bod staff y GIG wedi cael cydnabyddiaeth gan Ei Mawrhydi, Y Frenhines, mae’n rhaid i ni oedi am funud i ystyried mor aruthrol oedd yr hyn sydd wedi digwydd dros y 18 mis diwethaf. Rydyn ni i gyd yn haeddu ‘diolch’ mawr.
Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r meddygon dan hyfforddiant, sydd wedi dangos cymaint o ddewrder a chryfder yn ystod y pandemig. Yn benodol, hoffwn ddiolch i’r holl unigolion hynny sydd wedi bod yn cefnogi eraill. Mae ymroddiad llwyr ein tiwtoriaid coleg cyswllt gwych (ACTs), sydd wedi bod yn gweithio’n agos â Choleg Brenhinol y Meddygon Cymru yn ystod y cyfnod hwn, wedi fy ngwneud yn wylaidd. Maen nhw wedi bod yn cadw eu llygaid a’u clustiau’n agored ar ein rhan ar lawr gwlad, gan roi adborth gwerthfawr i ni, sydd yn ei dro wedi ein galluogi i roi sylw i faterion y mae eu cydweithwyr yn eu hwynebu. Os hoffai unrhyw hyfforddeion wybod mwy am rôl Tiwtor Coleg Cyswllt, mae manylion ar gael ar wefan Coleg Brenhinol y Meddygon – neu siaradwch â’ch tiwtor . Byddem wrth ein boddau pe baech chi’n ymuno â ni.
Prinder gweithlu yn cynyddu
Hoffwn ategu sylwadau ein llywydd yn ei fwletin ar 5 Gorffennaf. Yr anrheg ben-blwydd fwyaf y gallem ei chael fyddai buddsoddi mewn cael gweithlu cadarn. Mae arolwg diweddar Coleg Brenhinol y Meddygon ar weithio hyblyg yn tynnu sylw at y posibilrwydd o glinigwyr uwch yn gadael dros y 3 blynedd nesaf – sefyllfa ddifrifol.
Felly, er bod angen i ni ehangu ein lleoedd i fyfyrwyr meddygol, mae angen i ni hefyd recriwtio a hyfforddi meddygon y dyfodol. Beth fyddai’n gwneud meddygaeth yn fwy deniadol? Weithiau mae’n teimlo fel pe bawn i’n dweud yr hyn sy’n amlwg, ond byddai rotas llawn a chynaliadwy yn gwneud llawer i wella’r sefyllfa. Mae poblogrwydd cynhadledd rithwir Coleg Brenhinol y Meddygon Call the med reg’ yr oedd dros 1,000 o fynychwyr wedi cofrestru ar ei chyfer, yn rhoi rhywfaint o obaith i mi. Mae’n hanfodol rhoi’r offer, y sgiliau a’r wybodaeth iawn i’n IMT3 a’n ST3 er mwyn galluogi trawsnewid i rôl cofrestrydd meddygol, a gallwn gefnogi ein hyfforddeion drwy gynnal cyrsiau o’r fath. Rwyf hefyd yn falch iawn bod y cysyniad ar gyfer y cwrs, a ddeilliodd o Gymru, bellach yn un ‘prif ffrwd’, ac wedi ennyn ymwneud parhaus The Core.
Mynd i’r afael â’r argyfwng amgylcheddol
Mae hefyd angen i ni ddysgu o’r pandemig: ydyn ni’n ailgodi’n gryfach? Sut mae mynd ati i ailgodi’n fwy gwyrdd? Er mwyn i’r GIG fod yn gynaliadwy, nid dim ond y gweithlu y mae angen buddsoddi ynddo; mae angen mynd i’r afael â’i ôl troed amgylcheddol hefyd. Gyda lansio Iechyd Gwyrdd Cymru, sef rhwydwaith o weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n dweud bod yr ‘argyfwng hinsawdd yn argyfwng iechyd’, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymgysylltu â hyn. Mae’r ffordd y mae’r rhwydwaith hwn wedi cael ei sbarduno gan feddygon dan hyfforddiant wedi gwneud argraff arnaf – edrychwch ar eu prosiect enghreifftiol - Bevan.
Myfyrio ynghylch y pandemig
Rydym wedi trefnu noson o fyfyrio ynghylch effaith y pandemig – mae Dr Nerys Conway wedi llunio rhaglen gyffrous yn dwyn y teitl Addasu i fywyd ar ôl COVID’, a gynhelir ar-lein ar 7 Medi am 6.30pm. Archebwch eich lle nawr!
Ac yn olaf ...
Wrth i ysgolion gau am yr haf, ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, gobeithio y cewch chi i gyd amser i ymlacio gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.
Cadwch yn saff.
Dr Olwen Williams
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru
Meddyg ymgynghorol ym maes iechyd rhywiol a meddygaeth HIV