Home » News » Cystadleuaeth ar gyfer hyfforddeion | costau byw | clinigau SWAN

Cystadleuaeth ar gyfer hyfforddeion | costau byw | clinigau SWAN

Amser ‘plannu tu allan’ yw mis Mai.  Mae’r hadau a blannwyd yn gynharach yn y flwyddyn yn awr yn blanhigion iach a byddan nhw’n darparu ein cartref gyda chyflenwad o lysiau a dail salad.  Mae’r tŷ gwydr yn llawn o blanhigion tomatos, tsilis a phuprynnau ac rydw i’n freintiedig i gael yr amser a’r tir fel ei gilydd i dyfu fy mwyd fy hun.

Ac eto mae hanner pobl Prydain (55%) yn teimlo bod eu hiechyd wedi cael ei effeithio yn negyddol gyda’r codiad yng nghostau byw, yn ôl pôl piniwn diweddar gan YouGov a gomisiynwyd gan yr RCP.  Fel clinigwyr, dylem ni ragweld effaith hyn ar lesiant seicolegol a chorfforol yr unigolion yr ydym ni’n eu gweld.  Mewn cydweithrediad â mwy na 30 o sefydliadau, mae RCP Cymru Wales yn arwain ymgyrch i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu cynllun cyflawni ar draws y Llywodraeth i ymdrin ag anghydraddoldebau iechyd.  Yn ddiweddar, cyfarfyddais ag Iain Bell – cyfarwyddwr cenedlaethol dros wybodaeth ac ymchwil iechyd cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru – er mwyn trafod y wybodaeth y dylem ni fod yn ei chasglu er mwyn rhoi dealltwriaeth fanwl am yr ystadegau y tu ôl i benderfynyddion cymdeithasol iechyd a chlefydau.  Ym mis Mehefin, byddwn ni’n cyhoeddi adroddiad newydd mewn cydweithrediad â Chonffederasiwn GIG Cymru a fydd yn archwilio’r rhwystrau i newid a sut gallwn ni ymdrin ag afiechyd a gwella llesiant yng Nghymru.

Hyfforddeion, mae hi’n amser meddwl am ddiweddaru eich CV!

Mae un o’m hoff adegau o’r flwyddyn yn nesáu: cystadleuaeth poster yr RCP ar gyfer hyfforddeion.  Bob haf, rydym yn derbyn llawer iawn o gyflwyniadau cyffrous, sy’n manylu ar brosiectau ar addysg, gwella ansawdd, archwiliad, ymchwil a llawer o feysydd gwaith eraill.  Rydw i bob amser mor falch o ddarllen y gwaith sy’n cael ei arwain gan ein meddygon sy’n hyfforddi ar draws Cymru ac rydw i’n eich annog yn gryf i gymell eich hyfforddeion i anfon eu crynodebau atom.  Mae pob poster yn cael ei ystyried gan dimau golygyddol cyfnodolyn yr RCP ar gyfer ei gynnwys mewn cyfnodolyn sydd wedi’i adolygu gan gymheiriaid:  ffordd ffantastig o hybu portffolios.

Cyhoeddwyd un o gynigion y llynedd o Gymru, a gafodd ei gymeradwyo yn uchel,’Face time’ for the first time – cyfathrebu trwy fideo rhwng perthnasau a meddygon iau yn ystod pandemig y Covid-19 yn y Clinical Medicine. Mae eraill wedi cael eu defnyddio mewn adroddiadau pwysig yr RCP, gan gynnwys Recover, rebuild, renew (tudalennau 12–13). Cewch ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gystadleuaeth yma.

A ydych chi’n ffansïo coffi?

Ar ddydd Gwener, 10fed Mehefin, bydd tîm RCP Cymru Wales yn ymweld ag Ysbyty Glan Clwyd (YGC) ar gyfer sgwrs leol Cyswllt RCP Connect hybrid rhwng 12.30 a 2pm.  Ni allaf ddweud wrthych chi pa mor gyffrous yr ydw i am hyn!  Mae’r sesiwn amser cinio wyneb yn wyneb hon yn rhad ac am ddim i’r holl hyfforddeion, meddygon Camu Rhag Straen, clinigwyr cyswllt a chlinigwyr ymgynghorol Gogledd Cymru, gydag amrywiaeth o siaradwyr a chyfleoedd ar gyfer rhwydweithio.  Bydd y digwyddiad yn cael ei lywyddu yn bersonol gan staff canolfan ôl-radd YGC, gyda dolen i ymuno drwy MS Teams ar gyfer y rhai hynny na allan nhw fod ar y safle.  Er mwyn derbyn agenda ac archebu eich lle, cysylltwch â Lowri Jackson os gwelwch yn dda.

Gweithlu Cymru yn y dyfodol

Ni fydd yn syndod i chi fy mod yn parhau yn bryderus ynglŷn â’r gweithlu meddygol presennol a’r dyfodol.  Darganfu ystadegyn llwm o’r cyfrifiad diweddar gan RCP fod mwy na hanner y swyddi clinigwyr ymgynghorol yn y DU heb gael eu llenwi yn ystod 2021, gyda chyfraddau gwaeth hyd yn oed yng Nghymru. Tra fy mod wrth fy modd bod ehangu go iawn mewn lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru, mae’n cymryd oddeutu 15 mlynedd i ddod yn ymgynghorydd, ac felly mae heriau go iawn o’n blaenau.   Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn trefnu digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy Gymru ynglŷn â gweithredu eu strategaeth deng mlynedd ar gyfer y gweithlu. Cysylltwch ag AaGIC am fwy o wybodaeth.

Taith i Bortmeirion

Yn ddiweddar, treuliais 24 awr bleserus ac addysgol iawn mewn cyfarfod o Gymdeithas Clinigwyr yng Nghymru ym Mhortmeirion.  Thema’r cyfarfod oedd ‘Dyfodol y …’ a dyletswydd olaf Dr Jon Goodfellow fel Cadeirydd a oedd yn ymadael oedd cyhoeddi cynlluniau i ethol Cadeirydd newydd.  Dymunwn yn dda i Jon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’i olynydd.

Meddwl yn wyrdd

Bydd newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd amgylcheddol yn dod fwyfwy pwysig yn ystod y misoedd sydd i ddod, yn y GIG a’r RCP fel ei gilydd.  Mae’r Cyngor yn awr wedi cytuno i sefydlu pwyllgor RCP newydd ar newid yn yr hinsawdd er mwyn arwain meddwl strategol yn y maes hwn, ac ym Mhortmeirion, gofynnodd Dr Simon Barry, arweinydd clinigol cenedlaethol dros feddygaeth anadlol, inni gwblhau arolwg ar ragnodi Ventolin Evohaler ac anadlydd dos mesuredig salbutamol.  Rydym ni i gyd eisiau bod yn ofalus gyda’n ôl-troed carbon, yn y gwaith ac yn y cartref fel ei gilydd.  Ar y nodyn hwnnw, efallai fod gennych chi ddiddordeb clywed bod cofrestru yn awr yn agored ar gyfer cynhadledd rad ac am ddim, rithwir Iechyd Gwyrdd Cymru.  Archebwch eich lle yma.

Rhaglen achredu beilot ar gyfer gofal clefyd siwgr yn cychwyn yng Nghymru

Mae Rhaglen Achredu ar gyfer Gofal Clefyd Siwgr (DCAP) newydd yr RCP yn awr wedi cael ei lansio, gyda rhaglenni peilot yn nwyrain Lloegr a Chymru, sy’n cefnogi gwasanaethau clefyd siwgr ar gyfer cleifion mewnol sy’n oedolion.  Llongyfarchiadau i’r ysbytai hynny yng Nghymru sy’n cymryd rhan.  Edrychaf ymlaen at weld eich cynnydd.

Rhybuddion peidiwch â cheisio adfywio cardio-pwlmonaidd (DNACPR)

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn inni dynnu eich sylw at bryderon ynglŷn â phenderfyniad a wnaed i gyhoeddi rhybudd DNACPR ar gyfer unigolyn ar sail anabledd dysgu (unigolyn gyda syndrome Down a oedd wedi dod i mewn i Ysbyty yng Nghymru oherwydd cyflwr anadlol).  Ni ddylai oed, anabledd na chyflwr hirdymor fod yr unig reswm am gyhoeddi gorchymyn DNACPR a dylid gwneud y penderfyniadau hyn bob amser yn unol â chanllawiau clinigol. Darllenwch ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Triniaeth wrthficrobaidd gychwynnol ar gyfer sepsis

Yn ddiweddar, mae Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol wedi lansio datganiad newydd ynglŷn â thriniaeth wrthficrobaidd gychwynnol ar gyfer sepsis. Fel yr ydym ni i gyd yn gwybod, mae sepsis yn parhau i ladd llawer gormod o bobl bob blwyddyn ac mae canllawiau a all wella’r driniaeth gychwynnol ar gyfer sepsis – gan alluogi ei reoli a’i drin mewn ffordd fwy safonol a seiliedig ar dystiolaeth – yn werthfawr a phwysig dros ben.

Ymarfer meddygol da

Mae’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) yn ymgynghori ar fersiwn ddiweddaredig o Arfer Meddygol Da tan 20fed Gorffennaf 2022. Y rhain yw’r safonau ymddygiad proffesiynol a gofal cleifion a ddisgwylir gan yr holl feddygon yn y DU.  Byddwn yn eich annog chi i gyd i gymryd rhan yn yr arolwg, o hyfforddeion at feddygon Camu Rhag Straen at ymgynghorwyr.  Mae egwyddorion a gwerthoedd Arfer Meddygol Da wrth graidd addysg a hyfforddiant meddygol y DU, ac felly mae eich mewnwelediad chi yn bwysig.

Ac yn olaf …

… ni fu fy ngarddio yn gwbl ddidrafferth!  Yn ddiweddar, rydw i wedi cael llamgi bach newydd, a’i hoff dric yw rhedeg i ffwrdd gyda photiau planhigion – ia, yn aml mae’n dwyn y rhai gydag eginblanhigion sydd wedi cael eu trawsblannu!  Am hyfrydwch!

Mwynhewch ddyddiau cynhesach diwedd y gwanwyn.  Arhoswch yn ddiogel.

Dr Olwen Williams
Is-lywydd Cymru'r RCP
Ymgynghorydd mewn iechyd rhywiol a meddygaeth HIV

Mae blog gwestai'r mis hwn gan Dr Jamie Duckers, ymgynghorydd mewn ffeibrosis systig a meddygaeth anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.  Yma, mae’n trafod buddsoddiad diweddar Llywodraeth Cymru mewn clinigau ‘syndrom heb enw’ (SWAN).

Lansio clinigau SWAN (syndrom heb enw)

Yn unigol, efallai eu bod yn anghyffredin, ond mae clefydau prin yn effeithio ar un mewn 17 o bobl yng Nghymru.  Mae hyn gyfystyr â 175,000 o bobl, neu – wrth ei roi mewn persbectif – poblogaeth gyfan Wrecsam, Y Barri a Llanelli gyda’i gilydd.  Yn aml, mae’r rhai hynny gyda chlefydau prin a’u teuluoedd a’u gofalwyr yn mynd ar ‘daith ddiagnostig’ ac mae llawer yn teimlo ar goll.

Wrth weithio i ymdrin â phrif flaenoriaethau fframwaith Clefydau Prin y DU, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu rhaglen beilot dwy flynedd i sefydlu clinigau SWAN.  Bydd y rhain yn cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a bydd yn gweithio gan ddefnyddio dulliau diagnostig genetig a dulliau diagnostig eraill, a lle bo’n bosibl bydd yn cyfeirio’r wybodaeth hon at wella triniaeth. Bydd y tîm hefyd yn cynnwys cydlynydd gofal nyrsio gyda'r nod o helpu cleifion i ddod o hyd i'r gweithwyr iechyd proffesiynol lluosog sydd eu hangen ar gyfer eu gofal.

Ceir clinigau SWAN ar gyfer oedolion a phlant.  Mae’r clinig SWAN i oedolion yn cael ei arwain gan yr Athro Stephen Jolles a Dr Ian Tully (ymgynghorwyr mewn geneteg feddygol yng Ngwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan) a'r clinig ar gyfer plant gan Dr Jennifer Evans a Dr Jennifer Gardner. Mae’r clinig SWAN ar gyfer oedolion yn gwahodd atgyfeiriadau oedolion sydd â chysylltiad â dau neu fwy o systemau o’r rhestr ganlynol: cardioleg, anadlol, gastroenteroleg/hepatoleg, metabolig, endocrinoleg, arenneg, hematoleg, rhewmatoleg, imiwnoleg, dermatoleg, amhariad twf, iechyd meddwl neu glefyd arall, ac sydd o dan amheuaeth fod ganddyn nhw ddiagnosis tanseiliol sy’n unioli.  Dylai cleifion a’u teuluoedd gael eu hysbysu am yr atgyfeiriad, a bydd y claf yn parhau yng ngofal y prif glinigwr arweiniol.

Ein nod yw byrhau’r daith ddiagnostig, gwella cydlyniant y gofal a’r mynediad at ofal arbenigol, ynghyd â chynyddu ymwybyddiaeth clefydau prin ymysg gweithwyr proffesiynol gofal iechyd. 

Dr Jamie Duckers
Arweinydd clinigol ar gyfer clefydau prin yng Nghymru
Ymgynghorydd mewn ffeibrosis systig a meddygaeth anadlol