Daw isafswm prisio unedau (MUP) ar gyfer alcohol i rym heddiw ledled Cymru. Fe'i cynlluniwyd i leihau argaeledd alcohol cryf, rhad iawn. Mae'r rhai sydd fwyaf angen cymorth ar gyfer problemau alcohol yn fwy tebygol o brynu'r alcohol rhad iawn hwn ac mae MUP yn anelu at leihau'r niwed i'r grŵp hwn.
Mae'r Athro Ian Gilmore a Dr Ruth Alcolado yn rhoi eu mewnwelediadau i'r effeithiau y bydd MUP yn eu cael ar gamddefnyddio alcohol yng Nghymru.
Mae'r Athro Ian Gilmore
Yn ystod ei gyfnod fel Llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon, cyflwynodd nifer o ddatganiadau ar gamddefnyddio alcohol yn y Deyrnas Unedig. Hefyd, o dan ei arweiniad ef, lansiodd y Coleg Brenhinol yr AHA yn 2007, ac ef yw’r cadeirydd o hyd. Cafodd ei urddo’n farchog yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2010.
'Gan fod pobl ym mhob cwr o Gymru wedi bod yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi ddoe, dyma gyfle da i ystyried yr arfer o yfed alcohol mewn cymdeithas.
Gall yfed gormod o alcohol, yn enwedig yfed gormod yn rheolaidd, arwain at risgiau tymor hir i iechyd. Mae pobl sy’n yfed alcohol yn rheolaidd mewn perygl o ddioddef salwch fel canser, sirosis yr iau/afu a chlefyd y galon yn y dyfodol.
Gall yfed alcohol yn aml hefyd arwain at ddibynnu ar alcohol, a gall hynny arwain at chwalu perthynas, trais domestig a thlodi.
I gymdeithas, mae costau yfed lefelau niweidiol o alcohol yn cynnwys y costau uniongyrchol i wasanaethau cyhoeddus ac effaith sylweddol niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol ar gynhyrchiant ac enillion.
Mae’r broblem yn arbennig o berthnasol yng Nghymru, lle mae un o bob pump o bobl yn cyfaddef yfed mwy na’r terfyn wythnosol a argymhellir, a lle mae tua un o bob deg o bobl mewn ysbytai yn dibynnu ar alcohol.
Mae cryn dystiolaeth fod effaith niweidiol alcohol rhad yn cael effaith anghymesur ar y rhai sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf, ac yng Nghymru mae lefelau amddifadedd yn uwch na’r cyfartaledd.
Mae niwed sy’n gysylltiedig at alcohol yn rhoi baich enfawr ar y GIG, yr heddlu a’r gymuned ehangach. O’r holl alcohol sy'n cael ei werthu, y cynnyrch rhad iawn, fel poteli mawr o seidr cryf, sy’n cyfrannu fwyaf at niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Y ffordd hawsaf o leihau’r galw am alcohol yw codi’r pris ac rydym yn gwybod bod cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn ffordd effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.'
Felly pam rydym ni’n meddwl y bydd isafbris uned yn lleihau problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol?
'Mae tystiolaeth yn dangos bod yfwyr mawr yn dewis yr opsiynau rhataf, felly targedu’r yfwyr mwyaf yw’r ffordd fwyaf effeithiol o leihau’r defnydd o alcohol.
Mae’r cysylltiad rhwng pris alcohol, yfed alcohol a niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol wedi’i hen sefydlu. Yn y DU mae alcohol yn 74% yn fwy fforddiadwy heddiw nag yr oedd yn 1987. Wrth i alcohol ddod yn fwy fforddiadwy, cynyddodd niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn sylweddol; roedd derbyniadau i’r ysbyty a oedd yn gysylltiedig ag alcohol wedi dyblu, roedd derbyniadau o ganlyniad i glefyd alcoholaidd yr afu/iau wedi cynyddu ac roedd cynnydd o 94% wedi bod mewn derbyniadau o ganlyniad i wenwyn alcohol.
Mae rhai yn dadlau bod isafbris uned yn cosbi yfwyr cymedrol, ond mae tystiolaeth yn dangos y bydd isafbris uned yn effeithio mwy ar faint o alcohol mae yfwyr mawr yn ei yfed nag yfwyr cymedrol, ar draws y grwpiau economaidd-gymdeithasol i gyd. Byddai isafbris uned o 50c yn lleihau faint o alcohol y byddai yfwyr a niweidir yn ei yfed 5.4%, o gymharu ag 1% ar gyfer yfwyr cymedrol.
Mae fy ngyrfa broffesiynol, yn arbenigo mewn gastroenteroleg, yn arbennig clefyd yr iau/afu, wedi caniatáu i mi weld drosof fy hun pa niwed y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi.
Cyflwynais nifer o ddatganiadau cyhoeddus am yfed lefelau niweidiol o alcohol yn ystod fy nghyfnod fel Llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon. Hefyd, bûm yn gweithio ar lansio Cynghrair Iechyd Alcohol (AHA) y DU yn 2007, ac rwy’n Gadeirydd ar y gynghrair hon ar hyn o bryd.
Un o brif argymhellion AHA yw mai’r ffordd fwyaf effeithiol o leihau niwed o ganlyniad i alcohol yw drwy leihau pa mor fforddiadwy yw alcohol, sicrhau nad yw ar gael mor rhwydd a pheidio â’i farchnata gymaint. Fforddiadwyedd yw’r elfen fwyaf effeithiol o’r rhain i gyd, a dyna pam mae cyflwyno isafbris uned yng Nghymru i’w groesawu.'
Cewch ragor o wybodaeth am isafbris uned yng Nghymru drwy glicio yma.
Dr Ruth Alcolado
Mae Dr Ruth Alcolado yn feddyg yng Nghaerdydd sy’n arbenigo mewn gastroenteroleg. Mae hi wedi gweithio gyda Choleg Brenhinol y Meddygon Cymru ar faterion polisi a gwasanaeth ers 2014 a hi yw arweinydd y Coleg ar gyfer Cymdeithion Meddygol yng Nghymru.
Mae hi wedi bod yn gadeirydd grŵp Llywio Cymru Gyfan am y tair blynedd diwethaf ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Cwm Taf Morgannwg.
Yn ddiweddar cafodd secondiad rhan-amser gydag AaGIC i gefnogi’r broses o ddatblygu strategaeth arweinyddiaeth glinigol.
Mae Deddf Isafbris Uned Llywodraeth Cymru yn dod i rym ar ddydd Llun, 2 Mawrth 2020. Mae’n cefnogi’r ddeddf arloesol, ‘Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru’. Pam ydych chi’n meddwl bod hwn yn gam angenrheidiol yng Nghymru?
Bydd cyflwyno isafbris uned yng Nghymru yn arwain at wella canlyniadau iechyd ar unwaith ac yn lleihau nifer y problemau iechyd hirdymor a’r marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Mae tystiolaeth dda fod pris ac argaeledd yn ddau ffactor arwyddocaol o ran yfed alcohol a bod alcohol rhad yn cael dylanwad allweddol ar nifer o yfwyr mawr rheolaidd.
Hefyd, bydd isafbris uned yn arwain at leihau’r problemau cymdeithasol sy’n cael eu priodoli i gamddefnyddio alcohol, fel cam-drin emosiynol a/neu gorfforol, ysgariad, trais domestig, yn ogystal â charcharu.
Mae plant rhieni sy’n dibynnu ar alcohol hefyd yn wynebu risg uwch o broblemau iechyd meddwl, dibyniaeth ar alcohol a mwy o risg o gael nifer o wahanol salwch corfforol. Bydd isafbris uned yn cael effaith gadarnhaol ar y grŵp hwn.
Dylem hefyd edrych ar y canlyniadau o wledydd lle mae isafbris uned a rheolaethau eraill ar alcohol wedi cael eu rhoi ar waith. Mae’r gwledydd hyn yn dweud bod y mesurau hyn wedi arwain at lai o alcohol yn cael ei yfed.
Mae cryn dystiolaeth fod effaith ganiataol alcohol rhad yn cael effaith anghymesur ar boblogaethau o amddifadedd, ac yng Nghymru mae lefelau amddifadedd yn uwch na’r cyfartaledd. Pam rydych chi’n meddwl bod cyfraddau uwch o ddibynnu ar alcohol mewn ardaloedd o amddifadedd?
Yn ddiddorol iawn, mae arwydd ar sail poblogaeth fod pobl o gefndiroedd mwy cefnog yn yfed mwy nag oedolion o gefndiroedd mwy difreintiedig. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gadarn sy’n dangos bod y rhai hynny o gefndiroedd mwy amddifad yn wynebu baich anghymesur o ganlyniadau negyddol yfed llawer o alcohol. Paradocs niwed alcohol yw’r enw am hyn.
Mae modd egluro hyn rhywfaint oherwydd bod rhagor o bobl nad ydynt yn yfed alcohol ymhlith y poblogaethau mwyaf amddifad a bod y rhai hynny o’r poblogaethau hyn sydd yn yfed yn tueddu i yfed mwy.
Mae’n bosibl fod y rhesymau dros y paradocs niwed alcohol yn gysylltiedig â’r gydberthynas gymhleth rhwng deiet, ysmygu, ymarfer corff, nodweddion genetig etifeddol, yr amgylchedd a risg ddiarwybod o broblemau iechyd meddwl.
Hefyd dylid nodi bod yr ardaloedd sy’n cynnwys mwy o safleoedd gwerthu, hynny yw, rhagor o siopau sy’n gwerthu alcohol, yn aml i’w cael mewn ardaloedd o amddifadedd. Roedd y gydberthynas hon i’w gweld yng Nghaeredin gyda siopau’n gwerthu alcohol rhad.
Mae astudiaethau wedi dangos bod yfed yn drwm a deiet gwael ac ysmygu yn cynyddu’r risg o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Ond hyd yn oed os nad ydym yn ystyried hyn, mae pobl o gefndiroedd tlotach yn dal i ddioddef mwy o niwed na phobl o gefndiroedd mwy cefnog.
Mae gwaith ymchwil o Glasgow yn awgrymu mai lefelau uwch o straen seicogymdeithasol sy’n gyfrifol am lefelau uwch o ddibynnu ar alcohol ymhlith y rhai hynny o gefndir llai cefnog.
Hefyd, mae gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn taflu goleuni ar y cysylltiad rhwng niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a lefelau uchel o amddifadedd.
Mae yfed lefelau niweidiol o alcohol yn rhoi baich enfawr ar y GIG, yr heddlu a’r gymuned ehangach. Mae bron i un oedolyn o bob pump yng Nghymru yn yfed mwy na’r terfyn wythnosol a argymhellir. Allwch chi ddisgrifio’r beichiau hyn ymhellach?
Mae dogfen Coleg Brenhinol y Meddygon: Alcohol, can the NHS afford it? a gyhoeddwyd bron i ddau ddegawd yn ôl yn dal i fod yn berthnasol heddiw, ac mae’n amlinellu llawer o’r niwed a allai ddeillio o yfed llawer iawn o alcohol.
Yn draddodiadol, mae rhywun yn meddwl mai clefyd yr iau/afu sy’n deillio’n bennaf o niwed i iechyd sy’n gysylltiedig ag alcohol. Ond er mai’r afu neu’r iau yw un o’r organau mwyaf tueddol i gael clefyd, rydym hefyd yn gwybod bod alcohol yn arwain at fwy o risg o glefydau cardiofasgwlaidd, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, trawiad ar y galon a strôc. Mae anaf i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol yn ganlyniad andwyol arall i yfed gormod o alcohol, ac mae’n achosi salwch tebyg i ddementia ymhlith pobl ifanc.
Mae cysylltiadau clir rhwng yfed alcohol a rhai mathau o ganser, gan gynnwys canser y fron, canser y coluddyn, canser yr oesoffagws a chanser y geg. Gall alcohol achosi difrod uniongyrchol i gelloedd, cynyddu’r niwed sy’n gysylltiedig â thybaco, mae’n effeithio ar hormonau sy’n gysylltiedig â datblygu canser y fron ac mae’n effeithio ar sut mae cemegion eraill sy’n achosi canser yn torri i lawr.
Mae camddefnyddio alcohol yn cael effaith ar agweddau cymdeithasol hefyd, er enghraifft mae pobl sy’n yfed mwy yn dioddef rhagor o ddamweiniau yn y cartref ac ar y ffordd. Mae cysylltiad rhwng trais domestig ac alcohol, ac mae hyn yn ei dro yn arwain at effeithiau rhwng y cenedlaethau drwy brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae pob heddlu yn y wlad yn gweld y costau o ran gofynion plismona lleol mewn canol trefi a dinasoedd lle mae pobl yn yfed llawer o alcohol, yn ogystal â’r beichiau y mae hynny’n ei roi ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys.
O’r holl alcohol sy'n cael ei werthu, y cynnyrch rhad iawn, fel poteli mawr o seidr cryf, sy’n cyfrannu fwyaf at niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol. Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth bobl sy’n dweud bod isafbris uned yn gwahaniaethu yn erbyn y bobl dlotaf mewn cymdeithas rhag mwynhau diod haeddiannol ar ôl gweithio drwy’r wythnos mewn swydd sy’n talu cyflog isel?
Bychan iawn yw’r effaith y mae isafbris uned yn ei chael ar werthiant alcohol. Mae isafbris uned wedi cael ei bennu ar lefel lle mae’n effeithio ar y mathau o alcohol cryf iawn y mae yfwyr â phroblem yn ei yfed yn anghymesur.
Mae mwy o bobl nad ydynt yn yfed yn y gymdeithas dlotaf yn barod, felly ni fydd y rhai hynny sy’n cael diod ar ddiwedd yr wythnos yn unig yn gweld fawr o newid.
Ni fydd hyn yn effeithio ar alcohol sy’n cael ei yfed mewn safleoedd trwyddedig, gan fod yr alcohol hwn eisoes yn uwch na’r isafbris uned. Felly ni fydd y rhai hynny sy’n mynd allan gyda ffrindiau, teulu neu gydweithwyr am ddiod ar ddiwedd wythnos brysur yn gweld unrhyw newid.
Y ffordd hawsaf o leihau’r galw am alcohol yw codi’r pris ac rydym yn gwybod bod cyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yn ffordd effeithiol yn seiliedig ar dystiolaeth o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a lleihau lefelau yfed alcohol. Sut ydych chi’n meddwl y dylem ni fesur yr effaith hon?
Rhoddodd yr Alban yr isafbris uned ar waith yn 2018, ac mae wedi dilyn dull gweithredu pedair cainc i fesur effaith hynny. Dyma’r pedair cainc:
- Monitro rhoi’r isafbris uned ar waith a chydymffurfio â’r isafbris uned
- Asesiadau economaidd o'r farchnad
- Lefelau defnydd
- Canlyniadau iechyd a chymdeithasol
Dylwn sôn ei bod hi’n rhy gynnar i ddod i unrhyw gasgliadau pendant ynghylch effaith isafbris uned yn yr Alban, ond dylem gadw llygad ar hyn.
Yng Nghymru, ein nod yw gwella’r canlyniadau iechyd a chymdeithasol yn unig, a gallwn wneud hyn drwy fonitro’r data a gesglir yn rheolaidd. Dylid monitro data sy’n mesur ystadegau derbyniadau i'r ysbyty, cyfraddau marwolaeth y gellir eu priodoli i alcohol, lefelau yfed alcohol ymhlith pobl ifanc ac ystadegau troseddu i weld a oes newid cyfeiriad wrth i’r isafbris uned ddod i rym.
Hefyd, dylem gynnwys astudiaethau newydd i weld pa effaith y mae’r isafbris uned yn ei chael ar blant. Drwy edrych ar eu profiadau o fyw gydag aelodau o’r teulu sy’n dibynnu ar alcohol a’u hymddygiadau eu hunain sy’n berthnasol i yfed alcohol.
Mae hefyd yn bwysig nodi y dylid ystyried asesu barn y cyhoedd ynghylch effaith y polisi a pha mor dderbyniol yw’r polisi.