Dr Olwen Williams, is-lywydd RCP Cymru yn amlygu ein hadroddiad newydd ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at gyffro ein seremoni aelodaeth Cymru 2022 a gynhelir ym mis Tachwedd.
Wrth i mi ysgrifennu hyn, mae’r tymheredd uchaf erioed wedi’i gofnodi yng Nghymru. Mae hyn yn peri risg bosibl i fywyd, yn enwedig i bobl eiddil yn ein cymdeithas, ac mae’n tarfu’n sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol. Daw’r pwysau hyn, sy’n herio ein gallu i gynnal iechyd a lles da, o lu o ffynonellau – un yn unig yw’r tywydd; pan ddaw 50 o sefydliadau at ei gilydd o dan un achos, rydych yn gwybod bod gennych chi, gyda’ch gilydd, y dewrder a’r grym i ddylanwadu ar newid.
Y mis hwn, mewn partneriaeth â Chonffederasiwn GIG Cymru, cyhoeddodd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru Cofiwch y bwlch: Beth sy’n atal newid? Yr argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn anghydraddoldeb yng Nghymru, sy’n galw ar lywodraeth Cymru i weithredu nawr ar anghydraddoldebau iechyd drwy ddatblygu strategaeth drawslywodraethol. Mae anghydraddoldebau iechyd yn bethau rwy’n teimlo’n angerddol yn eu cylch; yn ystod cyfweliad radio byw ar gyfer BBC Radio Cymru, ar ôl i’r gohebydd ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi miliynau dros y blynyddoedd i fynd i’r afael â’r mater, allwn i ond ateb yn ôl drwy ddweud: ‘Felly pam ydyn ni’n dal i fod lle rydyn ni nawr?’
Wnes i erioed ddychmygu y byddwn i, yn yr unfed ganrif ar hugain, yn ymgyrchu yng nghyswllt cynnydd mewn tlodi a dirywiad o ran iechyd yng Nghymru. Darllenwch ein hadroddiad a helpu i wneud gwahaniaeth drwy godi’r materion gyda’ch aelodau etholedig.
Rydw i am oedi yma a manteisio ar y cyfle i wahodd pob aelod a chymrawd newydd i seremoni aelodaeth Cymru 2022 ar 23 Tachwedd. Yn ogystal â’r seremoni ffurfiol, bydd adloniant cerddorol a derbyniad i ddathlu. Dewch â’ch teulu a’ch ffrindiau i gwrdd â chydweithwyr a dathlu eich llwyddiannau ar ôl dwy flynedd anodd iawn. Archebwch eich lle neu cysylltwch â Wales@rcp.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth. Meddygon ymgynghorol, cofiwch gylchredeg y cyfle hwn i’ch hyfforddeion sydd wedi pasio’r MRCP. Mae’n addo bod yn ddigwyddiad i’w gofio!
Cafodd canlyniadau arolwg hyfforddiant cenedlaethol y Cyngor Meddygol Cyffredinol 2022 eu lansio ar 19 Gorffennaf, a chyhoeddwyd ymateb Coleg Brenhinol y Meddygon yn fuan ar ôl hynny. Mae’n ddeunydd darllen diddorol – cwblhaodd 87% o’r hyfforddeion a 58% o’r hyfforddwyr yng Nghymru yr arolwg. Fel y rhagwelwyd, roedd cynnydd sylweddol yn y gorweithio yn y ddau grŵp o’i gymharu â data cyn y pandemig. Fodd bynnag, daw’r Cyngor Meddygol Cyffredinol i’r casgliad: ‘mae’n brawf o’r gwaith caled a’r ymrwymiad a ddangoswyd gan hyfforddeion, hyfforddwyr, deoniaid ôl-radd a darparwyr hyfforddiant fod llawer i’w groesawu yng nghanlyniadau’r arolwg eleni.’ Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad fy hun o’r ymrwymiad enfawr a welais gan ein tiwtoriaid coleg a thiwtoriaid coleg cyswllt dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â’r gefnogaeth a gawsom gan ein pennaeth ysgol Dr Shaun Smale.
Roedd hi’n drist gennyf glywed na fydd David Oliver yn ymgymryd â llywyddiaeth Coleg Brenhinol y Meddygon ym mis Medi. Mae David wedi bod yn hynod ddewr yn gwneud y penderfyniad hwn. Dymunaf y gorau iddo. Bydd proses yn cael ei rhoi ar waith i ethol llywydd newydd ac i egluro’r trefniadau ar gyfer arweinyddiaeth dros dro. Mae’r Cyngor hefyd wedi cytuno i ohirio’r etholiad ar gyfer is-lywydd nesaf Cymru hyd wanwyn 2023, er mwyn cysoni’r cylch etholiadol ag etholiadau uwch swyddogion eraill Coleg Brenhinol y Meddygon. Rydw i wedi cytuno i aros yn is-lywydd hyd ddiwedd mis Gorffennaf 2023.
Mae hefyd yn werth tynnu sylw at y ffaith bod y system ar gyfer penodi cynghorwyr rhanbarthol yn newid. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn symud o etholiad i broses benodi yr haf hwn. Daw tymor y cynghorydd rhanbarthol presennol ar gyfer gogledd Cymru, Dr Mick Kumwenda, i ben eleni. Gofynnir am geisiadau y mis hwn. Mae’n rôl wych – yn gyfle go iawn i sbarduno newid ar lefel genedlaethol fel aelod allweddol o dîm swyddogion Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, a byddwn yn annog meddygon yng ngogledd Cymru i ystyried gwneud cais.
Torri esgyrn brau
Yn ddiweddar, mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi cyhoeddi adnodd sydd wedi’i anelu at gleifion a gofalwyr ar gyfer Cronfa Ddata’r Gwasanaeth Cyswllt Torri Esgyrn (FLS-DB). Bu’r Panel Cleifion a Gofalwyr, sy’n cynghori’r Rhaglen Archwilio Cwympiadau a Thoriadau Esgyrn Brau (FFFAP), yn helpu i ddatblygu’r adnodd i roi gwybod i aelodau o’r cyhoedd sydd wedi profi torasgwrn oherwydd breuder pa lefel o ofal y dylent ddisgwyl ei chael ar sail tri chanfyddiad allweddol o adroddiad blynyddol FLS-DB 2022.
Gwobrau amser ymchwil y GIG
Mae Dyfarniad amser ymchwil y GIG (RTA) yn agored i staff yn GIG Cymru, neu staff sydd wedi’u contractio i GIG Cymru (fel meddygon, deintyddion, nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr clinigol) mewn gofal sylfaenol, eilaidd neu gymunedol neu iechyd cyhoeddus. Mae’r grant yn rhoi cyfle i staff y GIG wneud cais am amser wedi’i neilltuo i gymryd rhan mewn gweithgaredd ymchwil.
Peidiwch â cholli’r cyfle am gymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Meddygon!
Dathlwch eich llwyddiannau drwy gynnig eich hun, neu dathlwch lwyddiannau eich cydweithwyr drwy eu cynnig nhw, ar gyfer cymrodoriaeth Coleg Brenhinol y Meddygon. Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer cymrodoriaeth yn 2022, rhaid i geisiadau gael eu cwblhau a’u derbyn drwy Borth y Gymrodoriaeth erbyn dydd Llun 5 Medi 2022. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys dogfennau canllaw, am gynigion a hunan-gynigion i’w cael ar wefan Coleg Brenhinol y Meddygon.
Darlithoedd Turner-Warwick nawr ar agor ar gyfer ceisiadau
Yn rhoi ymdeimlad o falchder, yn meithrin hyder ac yn rhoi anogaeth i hyfforddeion ledled y DU, mae cynllun darlithwyr Turner-Warwick yn dathlu un o’r grwpiau mwyaf o arwyr tawel. Mae’r rhan fwyaf o hyfforddeion yn gwneud cais i gynllun darlithwyr Turner-Warwick oherwydd bod uwch gydweithiwr wedi’i argymell iddynt. Helpwch ni i gefnogi hyfforddeion drwy rannu’r neges hon. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4 Hydref 2022.
Gobeithio y cewch chi i gyd gyfle i gael hoe haeddiannol dros yr haf er gwaethaf y pwysau parhaus – byddwch yn garedig â chi eich hun a’r bobl o’ch cwmpas.
Cadwch yn saff.
Dr Olwen Williams
Digwyddiadau i aelodau
20 Medi 2022 | Fforwm ymgynghorwyr newydd – Cymru (ar-lein)
Yn ein fforwm Ymgynghorwyr Newydd blynyddol ar gyfer Cymru, bydd Christopher Saunders, ysgrifennydd cynorthwyol BMA Cymru, yn ymuno â ni i siarad am gynllunio swyddi a chontract ymgynghorwyr Cymru, a bydd Dr Ruth Alcolado, cyfarwyddwr meddygol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn trafod ‘y darlun ehangach o ran diogelwch cleifion a sut rydych chi’n gwybod bod eich gwasanaeth yn ddiogel’. Mae’r fforwm ar agor i bob ymgynghorydd newydd yn y 5 mlynedd gyntaf yn y swydd, meddygon SAS a chofrestryddion yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant. Mae am ddim i aelodau sy’n tanysgrifio i Goleg Brenhinol y Meddygon ac mae’n cynnig 2 gredyd DPP. Archebwch lle nawr
23 Tachwedd 2022 | Seremoni ar y cyd i aelodau a chymrodyr newydd – Cymru
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pob aelod a chymrawd newydd sydd heb fod yn bresennol mewn seremoni yn Llundain. Cyflwynir eu diploma i aelodau a chymrodyr newydd yn ystod dathliad unigryw o’u cyflawniadau, ar thema Cymru. Yn ogystal â’r seremoni ffurfiol, bydd adloniant cerddorol a derbyniad i ddathlu. Gall aelodau newydd archebu lle nawr. Dylai cymrodyr newydd anfon e-bost at Wales@rcp.ac.uk i gael dolen arbennig ar gyfer archebu. Croesewir gwesteion.
24 Tachwedd 2022 | Y diweddaraf am feddygaeth – Caerdydd
Ar ôl ein seremoni ar y cyd ar gyfer aelodau a chymrodyr newydd, byddwn yn cynnal ein Diweddariad wyneb yn wyneb cyntaf mewn meddygaeth ers mis Tachwedd 2019. Ymunwch â ni yn y cnawd ar 24 Tachwedd 2022 ar gyfer rhaglen gyffrous a fydd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau gan feddygon blaenllaw ledled Cymru.