Wrth i Dr Olwen Williams geisio anghofio perfformiad gwael tîm rygbi cenedlaethol y dynion ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn ddiweddar, mae’n cysuro ei hun drwy edrych ymlaen at Medicine 2023 ac mae’n annog sefydliadau’r GIG i gymryd rhan yn y Rhaglen Prif Gofrestrwyr.
Does dim amheuaeth bod llwyddiant (neu ddiffyg llwyddiant) ein timau chwaraeon cenedlaethol yn effeithio ar hwyliau ein cenedl! Ond rwy’n benderfynol o beidio â bod yn ddigalon, oherwydd mae rhywfaint o newyddion cadarnhaol – mae pwysau’r gaeaf yn llacio, mae rhagor o streiciau’r GIG wedi cael eu hosgoi yng Nghymru ac mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei chynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu sy’n hir ddisgwyliedig.
Rwy’n falch o ddweud bod tîm Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru wedi cael dylanwad sylweddol ar y cynllun hyd yma, ond rydym yn parhau i alw am ragor o fanylion, yn enwedig ar ddata swyddi gwag. Rhaid inni gyfateb y niferoedd staffio â’r galw a ragwelir gan gleifion fel y gallwn gynllunio ar gyfer y tymor hir, a disgwyliwn weld cynnydd ar hyn erbyn yr haf. Siaradais â’r BMJ yn gynharach y mis hwn am fylchau mewn rotas a’r pwysau ar staff: mae angen inni weld camau gwirioneddol nawr i gadw, recriwtio, ailddylunio ac ailhyfforddi ein gweithlu.
Mae llawer yn digwydd! Dylai adran weithredol newydd y GIG yng Nghymru – a’i rhwydweithiau clinigol strategol newydd – fod ar waith yn ddiweddarach eleni a bydd datblygiadau diweddar yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf Cyngor Academi’r Colegau Meddygol Brenhinol. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn gwneud llawer iawn o waith y tu ôl i’r llenni i wneud yn siŵr bod y llais clinigol a’r profiad go iawn yn cael eu cynrychioli wrth galon y strwythurau newydd, felly cofiwch gysylltu os hoffech chi wybod mwy.
Mae Rhaglen ein Prif Gofrestrwyr nawr yn derbyn datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau’r GIG ar gyfer carfan 2023/24. Mae hwn yn gynllun arweinyddiaeth gwych a byddwn yn eich annog yn gryf i dynnu sylw eich cyfarwyddwr meddygol at hyn cyn y dyddiad cau ar 1 Mawrth. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Unwaith eto, rydyn ni wedi cael wythnosau cynhyrchiol wrth lansio dau adroddiad newydd: Dewis gyrfa gadarnhaol: 6 mis yn ddiweddarach, sy’n galw ar fyrddau iechyd GIG Cymru i fuddsoddi yn y gweithlu staff, arbenigwyr cyswllt a meddygon arbenigol (SAS), a Gofal Canser wrth y drws ffrynt: dyfodol oncoleg acíwt yng Nghymru, sy’n galw am fuddsoddi mewn gofal canser brys wrth ddrws ffrynt yr ysbyty. Roeddem wrth ein bodd gyda’r sylw a gawsom yn y cyfryngau am ein negeseuon a byddwn yn parhau i dynnu sylw at yr angen am ddewisiadau eraill yn lle derbyn cleifion i’r ysbyty wrth y drws ffrynt.
Bydd mis Mawrth yn fis prysur arall, gan ddod i ben gyda’n cynhadledd flaenllaw flynyddol Medicine 2023 – mae amser o hyd i gofrestru ar gyfer y digwyddiad hybrid 2 ddiwrnod. Y thema eleni yw newid yn yr hinsawdd, cynaliadwyedd ac iechyd, ac mae’n argoeli i fod yn rhaglen ddiddorol iawn gyda siaradwyr ysbrydoledig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn trefnu uwchgynhadledd Cymru gyfan ar effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd, gyda’r prif siaradwr, yr Athro Syr Michael Marmot – cadwch eich lle yma.
Mae’r daeargryn trychinebus yn Nhwrci a Syria wedi tynnu sylw unwaith eto at sut y mae angen i systemau gydweithio os bydd argyfwng iechyd. Bydd yr effaith hirdymor ar bobl yn y rhanbarth yn aruthrol; mae 35,000 wedi marw ac mae angen lloches, bwyd a chymorth meddygol ar 17 miliwn o bobl. Os hoffech chi gyfrannu, mae Apêl Daeargryn DEC yn lle gwych i ddechrau.
Roeddwn wrth fy modd o weld gwaith Dr Sam Rice yn cael sylw yn ein cylchgrawn aelodaeth, Commentary – mae cymaint o arloesi rhagorol yn digwydd yng Nghymru a dylem fod yn falch o lwyddiannau ein cymrodyr a’n haelodau. Ym mis Ebrill, byddwn yn ymweld ag Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac ym mis Mai byddwn yn ôl yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân. Rydw i’n edrych ymlaen at glywed sut mae cydweithwyr yno’n sbarduno newid. Os hoffech chi dynnu sylw at waith unigolyn neu wasanaeth o’ch ysbyty, rhowch wybod i ni. Gallwch ddarllen mwy o’n blogiau yma.
Cadwch yn saff,
Dr Olwen Williams
RCP vice president for Wales
Consultant in sexual health and HIV medicine
Newyddion a digwyddiadau aelodaeth
Medicine 2023 – Archebwch nawr!
Cynhelir cynhadledd flynyddol Coleg Brenhinol y Meddygon, Medicine 2023, ddydd Iau 30 a dydd Gwener 31 Mawrth 2023. Gallwch edrych ymlaen at 2 ddiwrnod o ddiweddariadau clinigol ac anghlinigol, gweithdai rhyngweithiol, rhwydweithio a mwy. Bydd llawer o’r sesiynau’n rhoi sylw i amrywiaeth o arbenigeddau, gan roi gwell dealltwriaeth i chi o wahanol afiechydon a salwch. Thema cynhadledd eleni yw cynaliadwyedd. Yn ogystal â dysgu clinigol, byddwch yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a’i effaith ar ofal iechyd. Byddwch yn clywed gan arbenigwyr blaenllaw ac yn trafod ffyrdd o wneud hinsawdd iechyd well gyda’n gilydd. Bydd pob sesiwn ar gael ar gais tan 30 Mehefin 2023. Archebwch eich lle nawr!
Rhaglen y Prif Gofrestrwyr: mae datganiadau o ddiddordeb ar agor
Mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn derbyn datganiadau o ddiddordeb gan sefydliadau’r GIG ar gyfer Rhaglen Prif Gofrestrwyr 2023/24 rhwng 16 Ionawr ac 1 Mawrth 2023. Mae’r prif gofrestrydd yn rôl arwain uwch gydag amser wedi’i neilltuo ar gyfer arwain a rheoli. Gyda chefnogaeth rhaglen ddatblygu bwrpasol gan Goleg Brenhinol y Meddygon, mae prif gofrestrwyr yn gweithio ar wella gwasanaethau, ymgysylltu a morâl, addysg a hyfforddiant, y gweithlu a chynaliadwyedd – ac yn sicrhau canlyniadau gwell i gleifion, timau a gwasanaethau. Mae’r rhaglen ar agor i’r holl arbenigeddau meddygon a'r rhai nad ydynt yn feddygon, ac mae’n rhaid i feddygon dan hyfforddiant fod yn lefel ST4 o leiaf, neu’n gyfwerth â hynny. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen a phori drwy flwyddlyfr 21/22.
Mae cynllun darlith Turner-Warwick ar agor ar gyfer ceisiadau!
Mae cynllun Turner-Warwick 2024 bellach wedi agor ar gyfer cyflwyniadau haniaethol. Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut mae gwneud cais. Fe ofynnom i Dr Bethan Davies, enillydd gwobr darlithydd Turner-Warwick yng Nghymru yn 2023, am ei rhesymau dros wneud cais a sut roedd hi’n teimlo am ennill y gystadleuaeth:
"Roeddwn wrth fy modd yn ennill y wobr TW am fy narlith am lwybr gofal wedi’i fyrhau, y gwnes i ei helpu i’w sefydlu pan oeddwn i’n gweithio yn Llundain. A minnau bellach yn ôl gartref yng Nghymru ar gyfer hyfforddiant cardioleg, rwyf yn obeithiol y gallaf weithio ar brosiect tebyg mewn ysbyty yng Nghymru. Mae’n wych bod Coleg Brenhinol y Meddygon yn darparu cyfleoedd fel hyn i hyfforddeion archwilio diddordeb mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth, felly ochr yn ochr â’r gwaith o ddydd i ddydd rydyn ni’n ei wneud, gallwn helpu i siapio a gwella’r gofal iechyd rydyn ni’n ei ddarparu."