Home » News » Mae newid ar y gorwel

Mae newid ar y gorwel

Ym mlog y mis yma, mae Dr Olwen Williams yn edrych ymlaen at y seremoni i aelodau newydd yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd, yn trafod ei chyfweliad fideo diweddaraf gyda Judith Paget, ac yn croesawu cynghorydd rhanbarthol newydd i dîm RCP Cymru Wales!

Annwyl gydweithiwr,

Wrth i mi fwynhau pelydrau olaf heulwen yr haf, mae tymheredd is yr hydref a’r dyddiau byrrach ar ein gwarthaf.  Gall newid gael effaith aruthrol arnom ni – teimlad tebyg i alar.  Os ydych chi'n  gyfarwydd â'r   pum cam galar  , byddwch yn ymwybodol bod yn rhaid inni fynd trwy broses (ddim bob amser mewn trefn) o wadu, dicter, bargeinio, iselder a derbyn.

Bu cymaint o newidiadau mawr i ni oll dros y mis diwethaf: marwolaeth   ein Hymwelydd RCP, Ei Mawrhydi Y Frenhines  , ethol prif weinidog newydd heb anghofio, Dr Sarah Clarke yn dechrau ar ei swydd newydd fel   llywydd RCP newydd   . Mae’r digwyddiadau hyn i gyd wedi digwydd yng nghyd-destun tlodi tanwydd cynyddol, anghydraddoldebau iechyd cynyddol, streiciau, a chythrwfl yn y GIG – sy’n gwegian dan straen cleifion a’r ôl-groniad o restri aros.  Nid yw'n syndod bod blinder, anafiadau moesol a blinder yn gyffredin yn y gweithlu meddygol.  Ni waeth faint o ymyriadau eilaidd a roddir ar waith i amddiffyn ein lles, ofer yw’r rhain oni bai yr eir i’r afael â’r mater sylfaenol.

Yn ystod fy ymweliadau â byrddau iechyd ledled Cymru, rwyf wedi clywed nifer o adroddiadau sydd wedi creu argraff arnaf ynghylch sut mae meddygon wedi addasu i ymdopi â’r cyfuniad o bwysau ar y gwasanaeth a’r gweithlu, ac eto fy mhryder am eu lles personol –   i ddyfynnu’r Fonesig Helen Stokes-Lampard  , 'y gaeaf hwn,   ni fydd brwydro 'mlaen yn opsiwn i'r GIG'   – ni fydd ychwaith yn gweithio i feddygon.

Ond nawr, mae'n bryd troi at newyddion hapusach, yn enwedig gan mai dim ond ychydig o wythnosau sydd y byddwn yn dod ynghyd ar gyfer ein   Diweddariad blynyddol ar feddygaeth yng Nghaerdydd   ar 24 Tachwedd.  A'r diwrnod cynt, byddwn yn cynnal   seremoni ysblennydd   ar gyfer aelodau a chymrodyr newydd yr RCP yng Nghaerdydd - digwyddiad rwy'n edrych ymlaen yn fawr ato.  Os wnaethoch chi, cydweithiwr neu aelod o’r teulu basio MRCP(UK) yn ddiweddar – neu efallai eich bod wedi derbyn cymrodoriaeth eleni? – ymunwch â mi a gweddill tîm RCP Cymru Wales i ddathlu’r llwyddiannau gwych hyn.  Dewch â'ch teulu i fwynhau rhwysg a rhodres seremoni yn Llundain, gan ddilyn gan adloniant cerddorol mewn derbyniad â blas Cymreig iawn.  Gall aelodau archebu eu lle   yma   a dylai cymrodyr newydd anfon e-bost at   Wales@rcp.ac.uk   i gael eu dolen archebu.

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaethom ymuno â chydweithwyr yn ne-orllewin Cymru ar gyfer dau ddigwyddiad personol gwych Cyswllt RCP Connect yn Ysbyty Tywysog Philip ac Ysbyty Glangwili.  Ein nod yw cynnal o leiaf tri digwyddiad ymgysylltu Cyswllt RCP Connect gydag aelodau a chymrodyr ledled Cymru bob blwyddyn, yn ogystal ag ymweliad ysbyty’r llywydd pob hydref.  Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi trefnu ymweliadau rhithwir â Maelor Wrecsam, y Faenor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.   Mae ein hadroddiadau ac argymhellion dilynol yma  . Bydd adroddiad digwyddiad gogledd Cymru o'n hymweliad ag Ysbyty Glan Clwyd – Positif o'r pandemig – yn cael ei lansio'n fuan. Cadwch lygad allan amdano!

Gan droi at newyddion cyffrous, yn ddiweddar daethom â 25 o golegau brenhinol a chyrff proffesiynol perthynol i iechyd ynghyd i gyhoeddi    Bringing the clinical voice to the conversation   . Y nod yw datblygu cysylltiadau parhaus cryfach gyda sefydliadau cenedlaethol fel AaGIC a Llywodraeth Cymru.  Rydym yn gobeithio cynnal uwchgynadleddau ddwywaith y flwyddyn i drafod blaenoriaethau cyffredin a byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf gyda chi.

I'r rhai ohonoch sy'n ymwneud â gweithredu'r fframwaith clinigol cenedlaethol, mae'r gweinidog iechyd wedi cyhoeddi y bydd gweithrediaeth newydd y GIG i Gymru yn 'fodel hybrid' a arweinir gan Lywodraeth Cymru.   Cymeradwyodd dros 30 o sefydliadau bapur RCP yn nodi ein barn ar y dull hwn   dros yr haf, a'r mis hwn, fe wnaethom   gyhoeddi ein hymateb   sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu'r weithrediaeth i'r ymgynghoriad.  Cadwch lygad allan amdano!

Mewn ychydig ddyddiau, byddwn yn ffarwelio â Dr Mick Kumwenda, sy’n rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru wedi wyth mlynedd yn y rôl.  Rwyf i (a'm rhagflaenwyr) wedi cael llawer o gefnogaeth a chyngor doeth ganddo; diolch yn fawr iddo am bopeth y mae wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf.

Gan edrych i’r dyfodol, hoffwn groesawu Dr Ben Thomas, arenegwr ymgynghorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam a fydd yn ymgymryd â rôl cynghorydd rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru ar 1 Hydref.  Ar hyn o bryd mae Ben yn aelod o bwyllgor materion moesegol mewn meddygaeth yr RCP yn Llundain ac edrychwn ymlaen at weithio gydag ef.

Y mis hwn, ein blogiwr gwadd yw Dr Khalid Ali, niwrolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol y Faenor yn ne-ddwyrain Cymru.  Mae’n trafod heriau agor ysbyty newydd yn ystod pandemig a’i benderfyniad i wneud cais i fod yn diwtor coleg pan oedd popeth i’w weld ar goll.  Mae'n erthygl ddiddorol dros ben.

Yn olaf, trist yw gorfod rhannu gyda chi'r newyddion y bydda i'n ymddiswyddo fel is-lywydd Cymru yn dilyn y Nadolig wrth i’m tymor ddod i ben yng ngwanwyn 2023.  Bydd cais am enwebiadau yn cael ei rannu ym mis Tachwedd; os oes gennych ddiddordeb neu gwestiynau am y rôl, mae croeso i chi gysylltu â mi.  Mae’n rôl heriol a chyffrous – yn un wirioneddol werth chweil.  Mae’r profiad yn un y galla i argymell i chi oll yn fawr!

Cadwch yn ddiogel,

Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd RCP Cymru
Ymgynghorydd mewn iechyd rhywiol a meddygaeth HIV

 

Darllenwch fy mlog

Newyddion a digwyddiadau aelodaeth

Seremoni aelodau newydd Cymru – 23 Tachwedd 2022, o 2pm

Ydych chi'n gymrawd o'r RCP a heb fynd i seremoni yn Llundain eto?  Efallai eich bod yn hyfforddai sydd wedi pasio ei MRCP(UK) yn ddiweddar?  Rydym yn cynnal seremoni ar y cyd ar gyfer Aelodau a Chymrodyr yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd i ddathlu eich cyflawniad gydag aelodau newydd a chymrodyr o bob rhan o’r byd.  Bydd y seremoni unigryw      yn dod â meddygon a'u gwesteion ynghyd â holl rwysg a rhodres ein seremonïau yn Llundain ynghyd ag adloniant cerddorol a derbyniad.  Gall aelodau archebu lle   yma   a dylai cymrodyr newydd anfon e-bost at   Wales@rcp.ac.uk   i gael eu dolen archebu.  Beth am aros dros nos a mynychu'r digwyddiad   Diweddariad mewn meddygaeth – Caerdydd   yn yr un lleoliad y diwrnod canlynol?  Mae gennym raglen wych      a byddwn yn trafod amrywiaeth eang o bynciau.

Gwyliwch y bwlch mewn anghydraddoldebau iechyd

Ym mis Gorffennaf, ar y cyd â Chynghrair Iechyd a Lles Conffederasiwn GIG Cymru, gwnaethom lansio papur newydd ar y rhwystrau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd,   Mind the gap: cost of living crisis and the rise of inequalities in Wales    a gymeradwywyd gan 50 o sefydliadau.  Yn fwy diweddar, cyflwynwyd erthygl   i fwletin ar-lein Iechyd Cyhoeddus Cymru  .   

Sgwrs â … Judith Paget CBE, cyfarwyddwr cyffredinol iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru

Yn y diweddaraf o'm cyfres o bodlediadau fideo ‘Sgwrs â…’ sef cyfweliadau a ffigurau blaenllaw yn sector iechyd a gofal yng Nghymru, cwrddais â Judith Paget i drafod dyfodol y GIG, nofelau trosedd a KitKat!   Gwyliwch ein sgwrs yma  . 

Enillydd Turner-Warwick o Gymru

Yn y blog hwn, mae Dr Alex Phillips – darlithydd Turner-Warwick Cymru 2020 – yn sôn am ei phrofiad gyda’r cynllun darlithwyr fel hyfforddai meddygaeth fewnol (IMT) a sut mae'r profiad yn rhoi ysbrydoliaeth iddi yn ei gyrfa.   Darllenwch y blog  .

Cofnod: Sgwrs a Syr Andrew Goddard

Gwrandewch ar y bennod gyntaf yn ein cyfres o bodlediadau newydd gan gofrestrydd yr RCP Cathryn Edwards –   Cofnod   – lle mae'n siarad â phobl â safbwyntiau unigryw yr RCP a meddygon.  Yn y bennod hon gyda llywydd yr RCP ymadawol, Syr Andrew Goddard, maent yn archwilio cymhellion, er enghraifft pam y dechreuodd fod yn weithgar yn yr RCP, beth yw prif sbardunwyr y rôl a'i angerdd am gynhwysedd diwylliannol yn y coleg a meddygaeth yn gyffredinol.

Cynllun darlithwyr Turner-Warwick!

Mae cynllun darlithwyr   Turner-Warwick   yn rhoi ymdeimlad o falchder, yn magu hyder ac yn annog hyfforddeion ledled y DU. Mae dyddiad cau cynllun 2023 yn prysur agosáu: 4 Hydref 2022. Ymgynghorwyr a meddygon SAS – cofiwch atgoffa eich hyfforddeion am y cyfle hwn.   Darganfod mwy  .

Mae rhaglen Med+ nawr yn fyw!

Mae'n bleser gennym groesawu dros 50 o siaradwyr ar gyfer cynhadledd   Med+  , a gynhelir ddydd Llun 24 Hydref a dydd Mawrth 25 Hydref.  Yn ystod y 2 ddiwrnod, byddwch yn mwynhau diweddariadau arbenigol ar gardioleg, niwroleg, gastroenteroleg, clefydau heintus a mwy.  Ymunwch â ni yn RCP yn The Spine yn Lerpwl, neu ar-lein ac ennill hyd at 10 credyd CPD.