Yn ei blog cyntaf fel is-lywydd RCP Cymru, mae Dr Hilary Williams yn myfyrio ar rai o'r prif heriau sy'n wynebu meddygon heddiw - gan gynnwys anghydraddoldebau iechyd, gwella gwasanaethau a lles y gweithlu.
Mae GIG Cymru yn 'gyfeillgar, cydweithredol a blaengar' - rwy'n dwyn geiriau un o'n hyfforddeion i egluro pam fy mod yn dewis gweithio yn ne Cymru a pham rwyf mor falch o gynrychioli meddygon ledled Cymru yn fy rôl coleg newydd.
Croeso, felly, i'm blog cyntaf fel is-lywydd RCP Cymru. Yn ffodus, rwy'n cymryd drosodd gan Olwen (y mae arnom ni i gyd gymaint o ddyled iddi) yn ystod misoedd yr haf, sy'n golygu fy mod i wedi gallu treulio peth amser yn meddwl am y prif heriau sy'n ein hwynebu ni i gyd.
Gwneud gwahaniaeth i anghydraddoldebau iechyd
Gan weithio yn ne Gwent, bob wythnos rwy'n cyfarfod pobl sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio'n ddifrifol gan ddiagnosis hwyr; pobl sy'n cael trafferth gyda thriniaethau oherwydd problemau iechyd meddwl cronig, a chyflyrau iechyd hirdymor lluosog sylweddol yn ifanc iawn. Rydyn ni'n gweld effaith anghydraddoldebau iechyd bob dydd yn ein hymarfer clinigol ac mae'r pandemig yn sicr wedi gwneud hyn yn waeth.
Fel meddygon sy'n gofalu am oedolion, rydyn ni'n cyfarfod pobl pan fydd effeithiau amddifadedd eisoes wedi gwneud niwed. Boed yn ysmygu, yn ordewdra, neu lythrennedd iechyd cyfyngedig, gall deimlo weithiau ein bod yn cael trafferth helpu ein cleifion o ystyried anghydraddoldeb cymdeithasol mor eang. Pan gyhoeddodd RCP Cymru Gwneud y gwahaniaeth mewn partneriaeth â Chonffederasiwn GIG Cymru, rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi adnabod yr heriau sy'n ein hwynebu yn ein gwaith o ddydd i ddydd.
Rwy'n ymwybodol bod timau ledled Cymru yn gweithio ar draws ffiniau clinigol traddodiadol yn eu cymunedau lleol i ddatblygu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf, ac mae'r ymrwymiad i wella'r darlun ehangach yn gryfder gwirioneddol. Nid yw fy mhrofiad o ganser yn unigryw o bell ffordd. O siarad â chydweithwyr, rwy'n ymwybodol o effaith amddifadedd ar glefyd yr afu a'r arennau, ac wrth gwrs mae llawer ohonom yn gweithio mewn ardaloedd lle mae cyfraddau ysmygu'n parhau'n uchel - ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi arwyddo llythyr yn ddiweddar gan Cancer Research UK a Gofal Canser Tenovus yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i gyflwyno rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint wedi'i thargedu. Fodd bynnag, gall deimlo'n anodd gwybod beth i'w wneud fel unigolion, yn enwedig pan fo cymaint o heriau eraill yn y GIG 2023.
Rwyf am osod her i mi fy hun a'r teulu RCP yng Nghymru. Rwyf am i ni weithio gyda'n gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn i anghydraddoldebau iechyd. Sut allwn ni ddechrau trosi polisi yn weithredu yn ein gwaith clinigol gyda chleifion? Sut gallwn ni gefnogi'r gwaith o gyflwyno cynlluniau peilot llwyddiannus ledled Cymru? Efallai bod newid polisi yn ymddangos yn gam enfawr - ac roeddwn wrth fy modd yn darllen fis diwethaf bod llywodraeth Cymru'n bwrw ymlaen â deddfwriaeth i fynd i'r afael â gordewdra - ond gall newidiadau bach adio at rywbeth mwy. Sut rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth cleifion, sut rydyn ni'n cynnwys llais profiadau gwirioneddol, sut rydyn ni'n chwarae rhan mewn atal gofal eilaidd, neu wella mynediad at ofal iechyd ... Yn bersonol, rwyf am wybod a oes cyfleoedd i egluro ein negeseuon ynglŷn â’r ffactorau risg cyffredin ac atal afiechyd. A oes gennym rôl mewn hyfforddi a newid ymddygiad? A allwn ni weithio'n agosach gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu'r trydydd sector?
Byddwn wrth fy modd yn clywed eich barn ar sut y gallwn weithio gyda'n gilydd fel meddygon i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Dros y 6 mis nesaf, byddwn yn cynllunio ymweliadau anffurfiol â Hywel Dda, Bae Abertawe a Betsi Cadwaladr. Rydym eisiau gwrando arnoch chi a dathlu eich llwyddiannau.
Meddwl ymlaen
Un o uchafbwyntiau ymweld â chydweithwyr ledled Cymru yw gweld eich ymrwymiad uniongyrchol i ddatblygu gwasanaethau a hyfforddiant meddygol. Boed hynny wrth glywed am wella ansawdd yn ystod ein hymweliadau Cyswllt, darllen y ceisiadau ar gyfer ein cystadleuaeth poster flynyddol, neu wrando ar y sgyrsiau yn ein diweddariad blynyddol mewn meddygaeth mae rhywbeth i'w ddysgu bob amser. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rwyf wedi dysgu am addysg ar gyfer cymdeithion meddygol, sesiynau ymsefydlu digidol mewn ysbytai, gwasanaethau methiant y galon sy'n canolbwyntio ar y claf, a llwybrau asthma cenedlaethol.
Ar y nodyn hwnnw, rwy'n falch iawn o longyfarch Dr Simon Barry a'i gydweithwyr ar eu gwaith arobryn i ddatblygu ap hunanreoli ar gyfer pobl sy'n byw gydag asthma a COPD, pecyn cymorth QI cofleidiol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a dangosfyrddau data ar gyfer comisiynwyr. Arweiniodd y dull arloesol hwn at ddwy wobr ddigidol HSJ y mis diwethaf am gael effaith ar iechyd y boblogaeth trwy gyfrwng digidol a symud tuag at sero net trwy gyfrwng digidol.
Mae gwella gwasanaethau'n lleol ac ar draws Cymru yn rhan fawr o fod yn feddyg i mi, ond yn fwy na dim, rwy'n falch iawn o fod yn glinigwr. Yn y pen draw, bod yn feddyg da yw'r hyn sy'n cyfrif. Mae'n waith anodd, ac yn gynharach y mis hwn yn lansiad y Senedd o'n papur briffio diweddaraf, roedd yn amlwg iawn bod clinigwyr da, boed yn nyrsys, meddygon, therapyddion neu fferyllwyr, angen amser i hyfforddi, amser i ofalu ac amser i orffwys. Mae angen i ni gael ein gwerthfawrogi gan ein cyflogwr a'n cydweithwyr am y gwaith pwysig yr ydym i gyd yn ei wneud. Wedi'r cyfan, mae buddsoddi yng ngweithlu'r GIG yn y dyfodol yn hanfodol, ond mae angen i ni ganolbwyntio ar gadw pobl i ddarparu gofal a hyfforddi eraill ar hyn o bryd.
Ac yn olaf...
Fe gollon ni fy nhad y mis hwn. Roedd yn yr ysbyty ac rwy'n ddiolchgar iawn bod ei feddygon, staff y ward a thîm yr adran frys wedi gofalu amdano'n dosturiol yn ei ddyddiau olaf. Er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu, mae'r GIG yno i ni, gan ein hatgoffa bod gofalu yn bwysig. Nid oedd angen profion yn y diwedd, dim ond geiriau ac amser. Hoffwn ddiolch i chi #YBoblSy’nGofalu
Dr Hilary Williams
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru