Croeso cynnes ac ymdeimlad o berthyn.
Pan ddechreuais fel Is-lywydd RCP Cymru yn ystod yr haf, roeddwn i’n benderfynol o dreulio fy ychydig fisoedd cyntaf yn mynd allan am dro, yn ymweld â’m cydweithwyr ar draws Cymru ac yn dysgu rhagor am sut mae systemau iechyd lleol yn gweithio. Beth yw’r heriau rydych chi’n eu hwynebu? Pa atebion ydych chi wedi’u canfod? Sut allwn ni ledaenu’r hyn a ddysgwyd a rhannu’r arferion gorau?
Ym mis Medi, cychwynnais ar daith ffordd o amgylch Cymru, gan ymweld ag Ysbyty Treforys ym Mae Abertawe, ac ysbyty’r Tywysog Philip ac ysbyty Glangwili yn Hywel Dda. Roedd ein cynghorydd rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, Dr Sam Rice, yn ffynhonnell gyngor a gwybodaeth wrth inni gyfarfod â chydweithwyr a theithio o amgylch ysbytai yn y gorllewin.
Roeddwn i’n falch iawn o’r ffordd y mae ein cydweithwyr sy’n gweithio mewn ardaloedd mwy gwledig ac anghysbell wedi datblygu model gwasanaeth a hyfforddiant sy’n rhoi blaenoriaeth i safonau uchel ac yn cynnal ymdeimlad o deulu a chymuned ar yr un pryd. Hoffwn ddiolch yn arbennig i staff y canolfannau i raddedigion yn Llanelli ac yng Nghaerfyrddin am eu croeso cynnes.
Ddwy wythnos yn ddiweddarach, roeddwn i mewn car Fiat 500 gyda Lowri Jackson, ein pennaeth polisi ac ymgyrchoedd, yn teithio i fyny ffordd yr A49 i gyfeiriad Ysbyty Maelor Wrecsam. Fe wnaethom dreulio prynhawn diddorol dros ben gydag ymgynghorwyr, hyfforddeion a chyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd, yn trafod eu pryderon am y pwysau y byddwn yn eu hwynebu wrth i’r gaeaf nesáu a’r argyfwng cynyddol gyda’r gweithlu, cyn mynd ymlaen i Ysbyty Gwynedd ym Mangor i gyfarfod â Dr Rachel Newbould, ein tiwtor coleg, a oedd wedi trefnu diwrnod o sgyrsiau a chyflwyniadau inni.
Yn ystod ein hamser yng ngogledd Cymru, clywsom oddi wrth dros 80 o feddygon, gan gynnwys rhai meddygon ar eu blwyddyn sylfaen a oedd newydd raddio o Ysgol Feddygol newydd sbon Prifysgol Bangor yn 2023. Cyfarfuom â graddedigion meddygol rhyngwladol, hyfforddeion, ymgynghorwyr newydd, meddygon arbenigwyr cyswllt ac arbenigedd (SAS) a meddygon ymgynghorol yn ogystal â chyfarwyddwyr clinigol (hyd yn oed y rhai a oedd wedi ymddeol a dychwelyd yn rhan amser dros y gaeaf – rwy’n ffeilio’r cynllun swyddi hwnnw er mwyn gallu cyfeirio ato i’r dyfodol!). Diolch o galon i Dr Ben Thomas, ein cynghorydd rhanbarthol yng ngogledd Cymru am ei gefnogaeth yn ystod y daith.
Felly, beth wnes i ddysgu oddi wrth ein cymuned o feddygon yng Nghymru? Mae ein meddygon yn gydwybodol iawn. Maent yn daer eisiau cyflwyno meddygaeth ddiogel, effeithiol a realistig. Maent yn poeni am y gymuned maen nhw’n byw ac yn gweithio ynddi. Mae gwaith tîm yn bwysig. Drosodd a throsodd, clywsom am werth cydweithwyr profiadol mewn timau amlddisgyblaethol a thimau cynhwysol.
Nid yw ein hysbytai yn aros yn eu hunfan. Clywsom am gyflawni dialysis dros nos, gan wella ansawdd gofal a chanlyniadau cleifion, swyddi hyfforddiant sylfaen academaidd newydd, fforymau meddygon iau ymgysylltiol ac effeithiol, modelau gofal brys yr un diwrnod (SDEC) llwyddiannus a chefnogaeth strwythuredig ar gyfer graddedigion meddygol rhyngwladol (IMGs) sy’n ymuno ag ysbytai Cymreig.
Ysbytai llai sy’n gwasanaethu poblogaeth wledig neu anghysbell
Un peth oedd yn amlwg i mi oedd pwysigrwydd yr ysbyty lleol llai. Cawsom groeso hynod gynnes ganddynt. Dywedodd ymgynghorwyr wrthym am y rhwydweithiau clos, rhwyddineb gweithio gyda’n gilydd, parhad y gofal a ddarparant. Roedd yr hyfforddeion yn gallu dysgu a datblygu eu set sgiliau fel rhan o dîm ehangach. Mae llawer yn dewis byw a gweithio mewn ysbyty llai, er gwaethaf heriau bylchau yn y rota a gwasanaethau bregus. Mae hefyd yn gallu cynnig cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith – tybed faint o bobl sy’n cadw byrddau padlo, esgidiau cerdded a harneisiau dringo yng nghist y car, yn barod i ddianc! Ond i raddedigion meddygol rhyngwladol, mae’r diffyg trafnidiaeth yn her go iawn. Mae hyn yn fy atgoffa y dylai’r penderfynyddion iechyd cymdeithasol ehangach wastad fod yng nghefn ein meddyliau.
Yn wir, wrth inni yrru i’r de ar hyd ffyrdd troellog, niwlog o Fangor i Aberystwyth, fe wnaethom sylweddoli faint o bobl yng Nghymru sy’n byw mewn ardaloedd gwledig gyda chludiant cyhoeddus prin. Hoffwn i’r RCP yng Nghymru ddeall a phwyso a mesur pwysigrwydd ysbytai llai a gofal iechyd gwledig. Sut allwn ni gynnal a chefnogi rhagor o ysbytai lleol anghysbell i gyflwyno gofal lleol hygyrch, o ansawdd uchel, yn enwedig y rhai sy’n gwasanaethu poblogaeth hŷn sy’n aml yn waelach, sy’n byw ymhell oddi wrth ysbytai trydyddol trefol?
Mae angen inni benderfynu gyda’n gilydd beth all ysbytai llai ei wneud mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy. Nid yw ysbytai yn bodoli ar eu pen eu hunain. Maent yn rhan bwysig o ecosystem lawer mwy, ac mae angen inni ddeall sut maent yn integreiddio gyda gofal critigol a gofal cymdeithasol ar naill ben y raddfa. Yn ystod gwyliau’r ysgol, disgwylir i rai o'n hysbytai llai ymdopi â chynnydd aruthrol yn y boblogaeth leol wrth i’r ymwelwyr heidio yma gyda dyfodiaid y tymor twristiaid. Cawn drafod hyn ymhellach yn 2024 – ac, fel bob amser, rwy’n awyddus i glywed eich barn. Cofiwch rannu unrhyw adborth gyda ni yn ogystal â’ch llwyddiannau a’ch heriau.
Anghydraddoldebau iechyd: yr eliffant yn yr ystafell
O Fangor, aethom i gyfeiriad y de i gynhadledd hydref Plaid Cymru yn Aberystwyth lle cynhaliom drafodaeth ar y prif lwyfan ar anghydraddoldebau iechyd gwledig – fy ymweliad cyntaf â chynhadledd wleidyddol. Yn ystod y drafodaeth cawsom gwestiynau am ymyrraeth gynnar: roedd cymydog un o aelodau’r gynulleidfa wedi datblygu arthritis, wedi ymuno â rhestr aros gynyddol, wedi datblygu pwysedd gwaed uchel ac iselder yn y cyfamser, a bellach mae’n methu â gweithio. Mae’r stori drist, stori sy’n cael ei hailadrodd rwy’n siŵr mewn sawl rhan o’r wlad.
Testun gwleidyddol annifyr gofal cymdeithasol
Yn y pen draw, fodd bynnag, ni allwn anwybyddu’r argyfwng gofal meddygol acíwt sydd ar stepen ein drws. Roedd yn anodd clywed ymgynghorwyr meddygol profiadol iawn yn disgrifio sifft ar alwad pan fu’n rhaid i bob un claf gael ei archwilio mewn cadair – roedd yr unig glaf a oedd mewn gwely mewn uned therapi dwys. Cwestiynodd yr hyfforddeion sut allai arholiadau PACES fyth adlewyrchu’r byd go iawn? Maent yn anobeithio gallu darparu gofal diogel, o ansawdd – y math o ofal y mae cleifion yn ei haeddu.
Rydyn ni oll yn adnabod y problemau. Cafodd gwelyau a wardiau eu dylunio ar gyfer byd pan oedd nifer y cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yn cyfateb i nifer y cleifion a drosglwyddwyd i ofal cymdeithasol neu i ofal yn y gymuned. Mae llawer o ysbytai wedi canfod ffyrdd arloesol o leihau nifer y derbyniadau – unedau eiddilwch ac unedau gofal yr un diwrnod – ond mae gormod o gleifion yn aros wythnosau, misoedd weithiau i adael yr ysbyty, ac yn anffodus, mae llawer ohonynt wedi’u dal mewn trogylch diflas lle maent yn gwaelu a gwanhau. Mae angen inni fod yn glir bod gofal wedi’i drefnu a gofal acíwt yn dibynnu ar lif cleifion allan o’r ysbyty a heb atebion hirdymor wedi’u hariannu i’r argyfwng gofal cymdeithasol, byddwn yn dal i dalu’r pris wrth y drws ffrynt.
Dr Hilary Williams
Is-lywydd RCP Cymru
Oncolegydd meddygol ymgynghorol