Y mis hwn, mae Dr Olwen Williams yn defnyddio ei blog i fyfyrio ar bwysigrwydd yr iaith a ddefnyddiwn, dyddiadau taith Cyfadran y Meddygon a fydd yn digwydd cyn hir yng Nghymru, ac mae'n cyflwyno blogiwr gwadd y mis, sef Dr Hilary Williams. Yn ogystal, mae’r blog yn atgoffa cymrodyr Coleg Brenhinol y Meddygon i bleidleisio yn etholiad 2022!
Mae wedi bod yn fis prysur! Rydw i wedi mynychu llawer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb, ymweld â swyddfa newydd Coleg Brenhinol y Meddygol (RCP) yng Nghaerdydd, a gwylio nifer o gemau rygbi. Yn fwyaf arbennig, rydw i wedi mwynhau cyfarfod â chydweithwyr RCP am y tro cyntaf ers misoedd lawer, ac rwy'n edrych ymlaen at daith Cyfadran y Meddygon Cyswllt y mis nesaf, pan fydd y daith yn cyrraedd Ysbyty Prifysgol y Faenor yng Nghwmbrân ac Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Os ydych chi’n feddyg cyswllt sy’n gweithio yng Nghrymu, gallwch fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau hyn neu, fel arall, eu mynychu nhw trwy MS Teams, er mwyn cwrdd â’ch llywydd, Kate Straughton. Ewch i wefan FPA i gael mwy o wybodaeth.
Mae wedi bod yn 2 flynedd hir ac, ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i a llywydd RCP, Dr Bod Goddard, gwrdd â Jo Stevens AS, yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Gymru, lle gofynnodd hi wrthym ni i ddiolch yn fawr i chi am eich holl waith caled yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, wrth i ni barhau i fyw gydag amwysedd ac ansicrwydd y byd ymfflamychol, annelwig a chymhleth sy’n bodoli heddiw, daw dulliau VUCA i'r cof. Mae'n hynod bwysig ein bod ni fel arweinwyr yn deall y systemau yr ydym yn gweithredu ynddynt ac yn dysgu i ganolbwyntio ar yr hyn sydd o bwys. Mae'r gwrthdaro yn yr Wcráin yn pwysleisio pa mor fregus yw heddwch. Ystyriwch roi trwy Apêl Ddyngarol DEC Wcráin, neu drwy UK-Med, sef prif elusen y DU sy'n cydlynu'r ymateb gofal iechyd ar lawr gwlad.
Mewn digwyddiad diweddar ble darlledwyd ffilm yr Athro Rachel Batterham, cynghorydd arbennig RCP ar ordewdra, ’Obesity: Englands most pressing healthcare challenge?’, cafwyd trafodaeth ddiddorol ar sut rydym yn siarad am bobl sy'n cael diagnosis o gyflwr cronig. Faint ohonom sy'n dal i ddefnyddio termau fel 'diabetig', 'yn ordew iawn' ac 'HIV-positif', yn hytrach na ‘byw gyda diabetes’?
Yn ddiweddar, fe wnes i gyfarfod â chadeirydd rhwydwaith cleifion a gofalwyr RCP, Eddie Kinsella, i drafod pwysigrwydd yr iaith a ddefnyddiwn, a sut gall y coleg gefnogi hynny. Yng Nghymru, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddiweddaru Mwy na geiriau (More than just words), y cynllun i annog y defnydd o'r iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Lowri Jackson.
Blogiwr gwadd y mis hwn yw Dr Hilary Williams, ymgynghorydd ym maes oncoleg feddygol ac ymgynghorydd rhanbarthol RCP dros dde-ddwyrain Cymru. Gallwch ddarllen ei blog llawn ar-lein lle mae'n trafod Diweddariad ym maes Meddygaeth Cymru 2022 a'r cyffro sy’n gysylltiedig â chwrdd â chydweithwyr wyneb yn wyneb.
Yn olaf, hoffwn eich atgoffa bod y broses enwebu cymrodyr wedi newid a bod y cyfnod pleidleisio ar gyfer etholiadau RCP 2022 (llywydd, is-lywydd clinigol a chynghorydd) yn cau am ganol dydd ar 11 Ebrill. Mae cymrodyr dibynadwy wedi derbyn eu dolenni pleidleisio unigryw oddi wrth Civica Election Services (takepart@cesvotes.com) – os nad ydych chi wedi derbyn dolen, gwiriwch eich ffolder sothach / sbam. Anfonwch unrhyw gwestiynau neu faterion eraill at membershipqueries@rcp.ac.uk.
Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i helpu i lywio dyfodol yr RCP a llais y meddyg ym maes polisi iechyd a gofal.
Mwynhewch y gwanwyn ac fe welaf i chi yng nghynhadledd flynyddol RCP Medicine 2022!
Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd RCP dros Gymru
Ymgynghorydd ym maes Iechyd Rhywiol a Meddygaeth HIV
Diweddariad ym maes meddygaeth Cymru 2022 | treialon clinigol | Mae pob meddyg yn cyfrif
Un o'r breintiau gwirioneddol o fod yn gynghorydd rhanbarthol RCP yw cynllunio ein cynhadledd flynyddol, Diweddariad ym maes Meddygaeth Cymru. Rydym yn dechrau gyda chyfarfod i drafod syniadau bron i flwyddyn ymlaen llaw! Wrth i’r syniadau ddechrau llifo, mae rhai cyfarfodydd yn gallu bod yn eithaf tanllyd, ond rywsut, rydym bob amser yn cyrraedd drafft cyntaf o'n hagenda. Rydym ni eisiau rhaglen sy'n berthnasol i ymarfer bod dydd, sy’n adlewyrchu Cymru a'n poblogaeth, sy’n cadw mynychwyr y gynhadledd yn effro ac sy’n cynnal eu diddordeb. Rydym yn gwybod pan fyddwn yn llwyddo: mae yna gwestiynau yn cael eu gofyn tan ddiwedd y sesiwn olaf a gwefr go iawn yn ystod yr egwyliau coffi. Eleni, nid cynhadledd rithwir mohoni, yn hytrach bydd yn cael ei chynnal yng Ngwesty'r Marriott, Caerdydd, ar 24 Tachwedd 2022. Rydym ni’n cynnal un o chwe diweddariad ledled y DU, ac rwy’n siŵr y bydd chwant go iawn i ymgysylltu â chydweithwyr o bob rhan o Gymru. Cofiwch archebu eich absenoldeb astudio yn gynnar!
Gwella prosesau recriwtio ar gyfer treialon
Rydw i wedi recriwtio ar gyfer treialon trwy gydol fy ngyrfa, mewn meysydd mor amrywiol â HIV a chardioleg, ac mae treialon yn rhan annatod of fy ngwaith beunyddiol yn fy maes arbenigol, sef oncoleg feddygol. Rwy’n trin cleifion sy’n dioddef o ganser y colon a’r rhefr, ond nid ydym ni wedi elwa o rai o’r cyffuriau imiwnotherapi sy’n newid bywydau sydd ar gael fel mater o drefn i gleifion melanoma a chanserau arennol ac ysgyfaint. Ond mae hynny'n dechrau newid. Rwyf wedi bod yn falch iawn o gofrestru cleifion ar dreialon newydd: ar ôl pandemig, mae angen triniaethau newydd o ystyried y cynnydd mewn canser y colon a'r rhefr ymhlith pobl o dan 50 oed.
Dyma un o'r rhesymau roeddwn yn awyddus i sicrhau bod ffocws ar ymchwil ym maes meddygaeth acíwt yn niweddariad 2022. Cefais fy ysbrydoli gan sgwrs gyda Dr Jon Underwood, meddyg ymgynghorol mewn meddygaeth acíwt a chlefydau heintus yn Ysbyty Athrofaol Cymru, am y rôl amlwg iawn y mae'r DU yn ei chwarae mewn treialon Covid-19 a'r arferion recriwtio ardderchog ar gyfer treialon yng Nghymru. A allwn ni fanteisio ar y profiad hwn i ddarparu mwy o dreialon? Rydym bob amser yn awyddus i glywed awgrymiadau ar gyfer pynciau neu siaradwyr yr hoffech eu gweld mewn digwyddiadau yn y dyfodol, felly cysylltwch â'ch syniadau.
Mae pob meddyg yn cyfrif
Mae angen i ni gefnogi ein hyfforddeion i aros yng Nghymru ac mae hyn yn golygu darparu opsiynau datblygu a gyrfa ardderchog. Mae cyflwyno fel rhan o’n cystadleuaeth posteri yn ffordd wych i hyfforddeion ddangos gwelliant gwasanaeth a gwaith ymchwil, ac mae’n cyfrannu pwyntiau at geisiadau hyfforddiant arbenigol uwch.
Yn 2021, derbyniodd y gystadleuaeth posteri rhanbarthol dros 500 o geisiadau ledled y DU ar draws 14 o gystadlaethau. Aeth 195 o hyfforddeion ymlaen i gyflwyno eu posteri rhithwir. Cymerodd cyfanswm o 42 o feirniaid ran, gan lunio rhestr fer a beirniadu posteri. Bydd cystadleuaeth posteri Cymru ar agor eleni rhwng 5 Ebrill ac 12 Mehefin: cyflwynwch gais neu anogwch eich hyfforddeion i wneud hynny. Mae'n gyfle gwych. Cysylltwch â thîm RCP Cymru i gael mwy o wybodaeth.
Yn gryfach gyda’n gilydd
Rwy'n siŵr bod llawer ohonom yn meddwl am gydweithwyr yn nwyrain Ewrop ac yn meddwl sut y gall eu systemau iechyd, sydd eisoes wedi'u hymestyn, ymdopi? Nid yw'r rhan fwyaf ohonom erioed wedi profi rhyfel, ond mae rhai o'n cydweithwyr yng Nghymru wedi gadael ansefydlogrwydd gwleidyddol i ddod i'r DU. Siaradais â Dr Karam Aboud yn ddiweddar, uwch hyfforddai a ffrind o Felindre a adawodd Syria cyn y rhyfel. Mae ei deulu estynedig wedi cael eu dal yn y gwrthdaro yno: mae wedi colli ffrindiau, teulu ac nid oedd yn gallu ffarwelio â'i neiniau a’i deidiau bregus.
Dywedodd Karam cymaint mae’n gwerthfawrogi ei fywyd yng Nghymru. Mae e'n wydn ac yn ddoniol ac yn dweud bod hyd yn oed diwrnod gwael yn gweithio yn y GIG yn cynnwys llawer o bethau cadarnhaol o gymharu â'r heriau y mae eraill yn eu hwynebu. Rydym wedi closio dros barseli bwyd gan ei fam - sbeisys o Syria trwy Sheffield - ac mae ei deulu yn falch iawn o'i gyflawniadau. Rydym mor ffodus o gael gweithlu rhyngwladol mor fywiog yng Nghymru.
Yn olaf, peidiwch ag anghofio pleidleisio yn etholiadau RCP eleni! Rydw i’n sefyll dros Gyngor RCP ac mae Olwen yn rhedeg i fod yn llywydd. Mae holl ddeunydd yr etholiad ar gael ar hwb yr etholiad ac mae pob cymrawd wedi derbyn neges e-bost yn cynnwys yr holl fanylion ynghylch sut i bleidleisio ar-lein.
Dr Hilary Williams
Cynghorydd Rhanbarthol RCP dros dde-ddwyrain Cymru
Ymgynghorydd ym maes Oncoleg Feddygo