Mae ymchwil yn allweddol i ofal rhagorol i gleifion. Mae ysbytai sy’n cynnal ymchwil wedi gwella canlyniadau i gleifion ac mae llawer o feddygon yn ystyried ymchwil fel rhan bwysig o’u swydd ac fel profiad positif iawn.
Wrth i grŵp trawsbleidiol y Senedd ar ymchwil meddygol gyfarfod am y tro olaf heddiw (dydd Mercher 10 Gorffennaf) cyn y seibiant seneddol dros yr haf, mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) ar gyfer Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, meddygon, cleifion a chyrff ymchwil.
Mae GIG Cymru yn wynebu llawer o heriau. Ni ellir anwybyddu prinder staff a phwysau ariannol, na'r angen am gyflwyno mwy o ofal integredig i gefnogi cleifion, ond ni allwn fforddio storio problemau ar gyfer y dyfodol drwy adael i ymchwil lithro. Bydd buddsoddi mewn ymchwil yn sicrhau budd tymor hir i gleifion ac iechyd y cyhoedd - sef holl nod y GIG wrth gwrs.
Ond eto rydym yn gwybod bod clinigwyr yn ei chael yn anodd sicrhau amser wedi’i neilltuo ar gyfer ymchwil gyda chleifion.
Mae gormod o glinigwyr yn gorfod gwneud amser i’w hymrwymiadau ymchwil o amgylch gweddill eu swydd. Gyda nifer cynyddol o fylchau rota mewn llawer o ysbytai, mae 43% o feddygon ymgynghorol Cymru’n dweud wrthym mai eu hymchwil yw un o'r pethau cyntaf i gael ei esgeuluso pan mae'r GIG o dan bwysau.
Ymhlith pethau eraill, mae Coleg Brenhinol y Meddygon yn galw ar Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i wneud y canlynol:
- gweithredu argymhellion Adolygiadau Reid a Diamond
- darparu arweinyddiaeth genedlaethol glir ar bwysigrwydd ymchwil meddygol
- adolygu’r ffrydiau cyllido ar gyfer ymchwil clinigol yng Nghymru, yn enwedig os bydd y DU yn gadael yr UE
- gweithio gyda'r gymuned ymchwil meddygol i sicrhau bod staff y GIG yn cael amser ymchwil wedi’i neilltuo.
Mae bron i hanner y meddygon ymgynghorol yng Nghymru’n dweud wrthym ni mai eu hymchwil yw'r peth cyntaf i fynd pan mae eu baich gwaith yn ormod. Ond eto mae ymchwil clinigol yn rhan bwysig o'r hyn mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ei wneud a dylai fod yn agored i bawb.
Dywedodd Dr Gareth Llewelyn, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Cymru:
‘Mae bron i hanner y meddygon ymgynghorol yng Nghymru’n dweud wrthym ni mai eu hymchwil yw'r peth cyntaf i fynd pan mae eu baich gwaith yn ormod. Ond eto mae ymchwil clinigol yn rhan bwysig o'r hyn mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn ei wneud a dylai fod yn agored i bawb. Nid dim ond gwisgo côt wen mewn labordy yw hyn - i lawer o feddygon, gall ymchwil gynnwys cofrestru pobl i dreialon clinigol a chasglu data am brofiad y claf a’r gofal iechyd rydyn ni’n ei ddarparu. Mae hyn i gyd yn helpu i sicrhau ein bod ni’n gallu cyrraedd y safonau uchaf mewn gofal meddygol. Wedi'r cwbl, bydd buddsoddi mewn ymchwil nawr yn darparu cyfleoedd newydd i achub bywydau yn y dyfodol.
‘Ond er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, mae’n rhaid i ni sicrhau bod meddygon a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn cael amser, gofod a rhyddid i arloesi. Wrth ysgrifennu'r adroddiad hwn, rydyn ni wedi siarad gydag amrywiaeth o glinigwyr ac maen nhw i gyd yn angerddol am eu gwaith a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud i fywydau pobl. Nawr mae’n rhaid i ni gydweithio i annog eraill i gyflawni eu llawn botensial.’