Home » News » RCP Cymru yn rhannu awgrymiadau i ddatblygu sgiliau hunanhyder ac arweinyddiaeth

RCP Cymru yn rhannu awgrymiadau i ddatblygu sgiliau hunanhyder ac arweinyddiaeth

Mae Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) Cymru wedi cyhoeddi awgrymiadau a chyngor i ddatblygu hunanhyder fel arweinydd clinigol yn y GIG.

Wedi'i drefnu gan ddwy o gymrodyr a ariannwyd gan Sefydliad yr Arglwydd Leonard a Lady Estelle Wolfson o Raglen Arweinwyr Datblygol i Fenywod RCP, sef Dr Nerys Conway a Dr Joanne Morris, denodd ein gweithdy nos #ArweinwyrDyfodolCymru yn gynharach eleni dros 50 o gynrychiolwyr. Rydym bellach wedi dod â’r sgyrsiau ysbrydoledig at ei gilydd mewn adroddiad newydd gydag awgrymiadau ar ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth a goroesi’r cydbwysedd rhwng prysurdeb bywyd a gwaith.

Daeth gwaith tîm a chefnogi ei gilydd i'r amlwg fel themâu cryf drwy gydol y gweithdy. Dro ar ôl tro, clywyd am bwysigrwydd helpu ein gilydd i gyflawni a chydweithio ar brosiectau; i fentro ac i beidio ag ofni dysgu wrth fethiant; i wneud camgymeriadau a symud ymlaen.

Soniodd y siaradwyr am bwysigrwydd mentoriaid a rhwydweithiau, o drafod problem gyda'ch cyfoedion, ffrindiau a chydweithwyr. Cafodd y gynulleidfa ei annog i ganfod ac i ddilyn eu hangerdd. I gloi, fe wnaeth pob siaradwr argymell ein bod i gyd yn cadw persbectif ac yn sicrhau ein bod yn cofio gofalu am ein hunain, ein teuluoedd a'n hiechyd meddwl.

Dywedodd Dr Nerys Conway, meddyg ymgynghorol a chymrawd Rhaglen Arweinwyr RCP i Fenywod:

'Gyda’r gallu i reoli amser yn dda, a rhwydwaith o gymorth anhygoel gan gydweithwyr gwych, rwy'n gallu cael y gorau o ddau fyd. Mae'n bosib ei wneud. Dwi ddim yn oruwchddynol. Ond fel pawb arall, dwi wedi wynebu rhwystrau drwy gydol fy ngyrfa.'

O edrych yn ôl ar y noson, ychwanegodd Dr Jo Morris, meddyg ymgynghorol a chymrawd Rhaglen Arweinwyr RCP i Fenywod:

'Dylai Cymru fod yn arwain y ffordd gydag arloesedd ac ysbrydoliaeth - gallwn ddenu a chadw ein cydweithwyr os ceisiwn eu cefnogi a gofalu amdanyn nhw, a dangos ein bod yn gwneud hyn.'

Dadlwythwch #ArweinwyrDyfodolCymru