Wrth i’r gaeaf agosáu, mae Dr Olwen Williams yn myfyrio ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, arweinyddiaeth dosturiol a’i chyfres podlediad fideo newydd gydag arweinwyr gwleidyddol yng Nghymru.
I mi, mae mis Medi yn fis o newid. Mae’n ddiwedd yr haf – wrth i’r nosweithiau dywyllu a’r dail cyntaf ddechrau disgyn, ac mae’n amser plannu’r bylbiau cennin Pedr. Mae’r flwyddyn academaidd newydd yn golygu dechrau newydd i lawer o bobl: rydyn ni’n croesawu ein carfan newydd o fyfyrwyr meddygol ac yn goruchwylio’r newid mewn swyddi hyfforddiant uwch. I rai eraill, mae’r ofn sy’n gysylltiedig â heriau’r gaeaf, a’r pryder ynghylch y storm berffaith o bwysau ar adrannau brys, COVID-19 a’r ffliw ar adeg pan fo angen hwb ar ein hegni.
Yng ngweminar rhithwir diweddar RCP Player, Addasu i fywyd ar ôl COVID-19, clywsom adroddiad sobr am sut roedd pedwar meddyg wedi ymdopi â’r pandemig. Trwy ymdopi â cholled a thrasiedi bersonol, daeth y meddygon ar draws cryfder mewnol nad oeddent wedi sylwi arno o’r blaen. Newidiodd eu hagweddd at y dyfodol. Roedd eu straeon yn peri i mi deimlo’n wirioneddol wylaidd, ac ers hynny rwyf wedi ystyried sut gallwn ni symud ymlaen wrth i’r pandemig effeithio’n ddidostur ar ein gallu i adfer, a hynny fel gwasanaeth iechyd ac fel unigolion. Gyda’n gilydd, rhaid i ni groesawu’r cysyniad o arweinyddiaeth dosturiol a bod yn garedig â’n gilydd. Bydd hyn yn galluogi pawb i ffynnu yn ystod y cyfnod anodd hwn ac annog eraill i ymuno â’n proffesiwn.
Efallai eich bod wedi sylwi bod Coleg Brenhinol y Meddygon wedi bod yn cynnal arolygon rheolaidd o effaith COVID-19 ar y gweithlu dros y deunaw mis diwethaf. Mae’r arolwg diweddaraf ar gael heddiw. Rwyf yn eich annog i’w lenwi– mae’r canlyniadau’n ein helpu i dynnu sylw gwleidyddion at eich pryderon a dylanwadu ar benderfyniadau’r llywodraeth.
Yng nghyfarfod chwarterol Academi’r Colegau Brenhinol yng Nghymru, roeddwn yn falch iawn o glywed gan yr Athro Tom Lawson, Deon Uwchraddedigion Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) am y bwriad i ehangu’r nifer o lefydd sydd ar gael i fyfyrwyr meddygol, a’r cynnydd sylweddol mewn swyddi F1 a fydd ar gael. Gobeithir y bydd hyn, ynghyd â recriwtio graddedigion meddygol rhyngwladol, yn cyfrannu rhywfaint at dwf y gweithlu o ymgynghorwyr a meddygon teulu yng Nghymru. Gofynnaf ein bod yn cefnogi’r twf hwn trwy sicrhau ein bod yn darparu profiad hyfforddi rhagorol yn ystod lleoliadau clinigol.
Mae ein hyfforddeion wedi bod yn rhagweithiol iawn yn ddiweddar. Mae Dr Sherya Gupta, hyfforddai meddygaeth fewnol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, yn edrych ar sut mae COVID-19 wedi effeithio ar hyfforddiant a’r profiad addysgu rhithiol yng Nghymru. Mae’n cael ei chefnogi gan Dr Tom Cozens, cyfarwyddwr rhaglen hyfforddi ar gyfer meddygaeth aciwt ac rwy’n eich annog i chi lenwi eu harolwg.
Rwy’n gobeithio eich bod wedi mwynhau’r cyntaf o’m cyfres o bodlediadau fideo ‘Trafod gyda...’Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Gyda’r cyfweliadau hyn, fy nod yw rhoi cipolwg ar feddylfryd y rhai sy’n dylanwadu ar y ffordd y caiff Cymru ei rhedeg. Gyda Helána, archwiliais i’r potensial o gael system iechyd a gofal cymdeithasol di-dor. Cadwch lygad am fy nghyfweliad nesaf, y tro hwn gyda Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, lle byddwn yn trafod y cysylltiadau rhwng penderfynyddion cymdeithasol iechyd a’n hôl troed carbon.
Lansio’r cyfrifiad o feddygon ymgynghorol
Ar 6 Hydref, byddwn yn lansio cyfrifiad 2021-22 y DU o feddygon ymgynghorol a meddygon arbenigol cyswllt (SAS). Mae’r data rydyn ni’n ei gasglu yn ein helpu ni i ddylanwadu ar Lywodraeth Cymru, i gefnogi’r gwaith o gynllunio’r gweithlu ac i gyfrannu at bolisi iechyd. Mae hyn i gyd yn bwysicach nag erioed wrth i’r GIG adfer ar ôl y pandemig. Cadwch lygad ar eich e-bost i weld eich ffurflen bersonol.
A yw eich hyfforddeion yn cymryd rhan mewn clinigau rhithwir?
Mewn prosiect Gwella Ansawdd newydd ar brofiad clinig cleifion allanol IMT, a gafodd ei gynnal dan arweiniad hyfforddai yng Nghymru, canfuwyd nifer o rwystrau i bresenoldeb, yn ogystal â’r cyfyngiadau wrth ddefnyddio defnydd clinigau rhithwir. Mae tri o’n hyfforddeion, Dr Charlie Finlow, Dr Rosie Hattersley a Dr Melanie Nana, bellach wedi datblygu canllaw ar gyfer clinig sy’n llawn awgrymiadau a thriciau. Eu nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o’r cwricwlwm IMT, gofynion Adolygiad Blynyddol o Ddatblygiad Cymhwysedd (ARCP), adnoddau allweddol a chefnogi’r gwaith o feithrin sgiliau. I gyflwyno adborth, anfonwch e-bost at charlie.finlow@wales.nhs.net. I lawlwytho’r canllaw ewch i wefan The Core .
Prosiect rhyddhau o’r ysbyty Y Groes Goch Brydeinig
Mae’r Groes Goch Brydeinig yn ymchwilio i’r model Rhyddhau i Adfer ac yna Asesu a sut mae wedi cael ei roi ar waith ledled Cymru. Fel meddyg neu feddyg cyswllt, os hoffech chi siarad â nhw ynghylch eich safbwynt ar ryddhau o’r ysbyty, ystyriwch ymuno ag un o’u grwpiau ffocws rhithiol dienw: cysylltwch Angharad.Davies@ors.org.uk.
Iechyd Gwyrdd Cymru
Mae Iechyd Gwyrdd Cymru yn rhwydwaith o weithwyr gofal iechyd proffesiynol mewn rolau clinigol, anghlinigol, gweinyddol, cefnogi a rheoli ledled Cymru sy’n cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd yn argyfwng iechyd. I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn maen nhw’n ei wneud, ewch i’w gwefan neu cysylltwch â info@greenhealthwales.co.uk.
Wythnos o ddysgu gan Gomisiwn Bevan
The Bevan Commission has partnered with the All-Wales Intensive Learning Academy to offer an Mae Comisiwn Bevan wedi ffurfio partneriaeth ag Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan i gynnig Wythnos Dysgu Dwys i weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal. Bydd y rhaglen yn cefnogi gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal i ddylanwadu ar newid a chael effaith yn eu gweithle trwy ganolbwyntio ar sut i arloesi a newid ym maes iechyd a gofal. Mae ysgoloriaethau ar gael i’r rheini sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac mae’r wythnos yn cael ei chynnal rhwng 29 Tachwedd a 3 Rhagfyr.
Cofiwch, gyda chwymp y dail daw blaguron newydd.
Cadwch yn saff.