Yn y blog y mis hwn, mae Dr Olwen Williams mewn undod â chydweithwyr yn y gymuned LGBT+ ac yn cyflwyno ein blogiwr gwadd cyntaf, sef Dr Sam Rice, cynghorydd Rhanbarthol De Cymru ar gyfer Coleg Brenhinol y Meddygon.
Mis Chwefror yw Mis Hanes LGBT+ ac rydw i wedi bod yn pwyso a mesur sut y dylem ni fel meddygon groesawu cynhwysiant. Beth yw’r ffordd orau o gefnogi ein cydweithwyr, yn enwedig ar adeg pan rydyn ni i gyd dan bwysau enfawr? Sut gallwn ni wir ddeall sut mae ein cydweithwyr yn profi stigma, gwahaniaethu a throseddau casineb? Dylai’r holl gefnogaeth a roddwyd i’r gymuned LGBTQ+, ac a dderbyniwyd ganddynt, ar ôl cael tri o bobl yn euog yn ddiweddar o lofruddiaeth homoffobig Dr Gary Jenkins yng Nghaerdydd ein hatgoffa o’r angen i ofalu am ein gilydd a rhoi gwybod am unrhyw gam-drin.
Rydw i’n falch iawn bod dau gymrawd o Goleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru yn sefyll yn yr etholiadau sydd ar y gweill. Mae Dr Hilary Williams, cynghorydd rhanbarthol de-ddwyrain Cymru yn sefyll ar gyfer y Cyngor ac rydw i’n un o’r saith ymgeisydd ar gyfer llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae rhagor o wybodaeth am yr etholiadau ar ein gwefan.
Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnwys blogiau gan ein cynghorwyr rhanbarthol yng Nghymru. Byddant yn darparu persbectif gwahanol o bob cwr o’r wlad wrth i ni ddechrau ar y dasg enfawr o ddysgu o’r 2 flynedd ddiwethaf ac ailadeiladu’r GIG ar ôl y pandemig.
Hoffwn groesawu Dr Sam Rice, sef cynghorydd rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru, a meddyg ymgynghorol ym maes diabetes ac endocrinoleg yn Ysbyty’r Tywysog Philip yn Llanelli fel y blogiwr gwadd ar gyfer mis Chwefror.
Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru
Meddyg ym maes iechyd rhywiol a meddygaeth HIV
Gorllewin Cymru yw’r gorau | Datgysylltu ar ddyddiau i ffwrdd | Pontio’r bwlch breintiau | Statws coch
Yn fy marn i, gorllewin Cymru yw’r lle gorau yn y wlad i fyw a gweithio, ac rydw i’n ei chael yn anodd deall pam nad yw meddygon yn heidio yma. Mae’r ysbytai’n groesawgar ac mae ymdeimlad o gymuned ynddynt. Fel ym mhob man, oes, mae problemau o ddydd i ddydd gyda llwyth gwaith trwm yn erbyn adnoddau cyfyngedig, ond mae’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu’n hyfryd ac mae’r bobl yn gwerthfawrogi’n fawr yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar eu cyfer. Mae fy nghydweithwyr yn anhygoel, yn ymroddedig ac yn wybodus iawn. Ar ôl gweithio mewn llawer o lefydd yng Nghymru (a thu hwnt), does gen i ddim amheuaeth ein bod yn darparu’r lefelau uchaf o ofal. Mae gennym wasanaethau trydyddol ac arweinwyr clinigol gwych hefyd, ac rydyn ni i gyd yn cyfarch ein gilydd gan ddefnyddio ein henwau cyntaf. Mae’n hawdd cael trafodaethau am achosion clinigol mwy anodd ac mae hynny’n ddefnyddiol iawn.
Fodd bynnag, nid yw’n ymwneud yn gyfan gwbl â’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn y gwaith. Mae cefn gwlad hardd iawn yng ngorllewin Cymru. Mae bod allan yn y cefn gwlad yn adfywiol bob amser. Mae fy nhaith fer i’r gwaith yn mynd â mi heibio i geffylau gwyllt, gyda golygfeydd i Ddyfnaint ar y dde ac i Sir Benfro ar y chwith, ac yna ar hyd aber Llwchwr, gyda dim ond un set o oleuadau traffig rhwng fy nhŷ a’r ysbyty. Rydw i’n gallu seiclo’r daith mewn llai nag awr ac rydw i’n byw llai nag awr i ffwrdd mewn car o bum ysbyty cyffredinol yn ardal de Cymru. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cefais gyfle i fynd â meddyg o Awstralia i ymweld â’r Bae Tri Chlogwyn ym Mhenrhyn Gŵyr ac, heb or-ddweud, roedd wedi’i syfrdanu. Doedd ganddo ddim syniad bod llefydd mor anhygoel yn bodoli yng Nghymru. Os ydych chi’n gweld unrhyw swyddi a allai fod o ddiddordeb i chi yma, byddwn yn eich cynghori i’w hystyried. Mae bywyd yma’n anhygoel.
Datgysylltu ar ddyddiau i ffwrdd
Un o’r canlyniadau cadarnhaol o’r 2 flynedd ddiwethaf sy’n cael ei drafod yn aml yw’r gallu i weithio dros y we. Ar gyfer y rheini ohonom ni sy’n darparu gofal mewn cymunedau gwledig, gall y buddion fod yn sylweddol: yn achos un clinig, rydw i wedi cyfrifo fy mod wedi arbed 1,000 cilomedr o deithio. Wrth gwrs, dydy clinigau dros y we ddim yn glinigol briodol i bawb, ac fel llawer o bobl, rydw i’n ymwybodol nad yw adolygiad dros y we mor gynhwysfawr ag ymgynghoriad wyneb yn wyneb.
Fodd bynnag, yn fwy na hyn, rydw i wedi dod yn fwy ymwybodol bod y ffiniau rhwng gwaith a chartref yn niwlog. Rydyn ni wedi bod yn camu i’r cyfeiriad hwn ers peth amser bellach gan fod e-byst gwaith ar gael ar ein ffonau, ond erbyn hyn mae gennyf swyddfa gartref wedi’i sefydlu i edrych ar ganlyniadau cleifion, ysgrifennu a llofnodi llythyrau a mynychu cyfarfodydd yn lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn yn golygu bod fy niwrnod gwaith yn dechrau’n gynt ac ond yn gorffen pan fydd y cwestiwn neu’r e-bost diwethaf yn dod i mewn.
Felly, mae llawer ohonom ni'n gweithio fel hyn nawr ac rydw i’n teimlo ei fod yn dod yn norm. Dydy defnyddio neges allan o’r swyddfa ddim yn atal yr e-bost rhag canu ar eich ffôn. Felly, yr hyn rydw i’n ei ddweud (wrtha i fy hun yn ogystal â’r rheini sy’n darllen hwn) yw bod angen i ni weithio’n galetach i ddatgysylltu ein hunain. Rhowch y ffôn i lawr, diffodd y cyfrifiadur a cheisio peidio ag ateb i e-byst tan fore Llun. Efallai y dylech hyd yn oed osgoi anfon negeseuon e-bost y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn ystyried eich cydweithwyr sydd ar wyliau blynyddol. Wedi’r cyfan, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i amser i fynd allan i fwynhau cefn gwlad Cymru.
Pontio’r bwlch breintiau
Fe gefais fagwraeth freintiedig. Symudodd teulu fy mam i’r DU o ddwyrain Ewrop ar ôl yr ail ryfel byd, ond rydw i wedi ystyried fy hun yn Gymry ac yn Brydeinig erioed. Es i ysgol gynradd fach ac yna ysgol gyfun yng ngogledd Cymru. Ond yn 13 oed, es i’r ysgol breifat fwyaf anhygoel yn Lloegr gyda chymorth bwrsari. Felly ydw, rydw i’n wyn, yn ddyn ac yn freintiedig.
O ystyried fy nghefndir, rydw i’n meddwl yn aml pa mor dda ydw i am ymgysylltu â’r bobl rydw i’n eu gweld yn fy nghlinigau, sydd bennaf mewn ysbyty cyffredinol mewn tref ôl-ddiwydiannol mewn ardal eithaf difreintiedig yn ne Cymru. Dros y degawd diwethaf, rydw i wedi gweithio gyda chydweithwyr i ddatblygu cyfres o ffilmiau addysgol ar gyfer pobl sydd â chyflyrau cronig. Mae pobl yn fwy tebygol o newid eu hymddygiad os ydynt yn ymddiried yn y sawl sy’n cyflwyno’r neges. Fodd bynnag, rydw i’n poeni bod fy nghefndir yn wahanol iawn i fagwraeth fy nghleifion ac a fyddaf yn dal i allu gwneud y cysylltiad hwnnw â nhw. I mi, mae hyn yn tanlinellu pam ei bod yn hanfodol ein bod ni yng Nghymru yn cynyddu capasiti yn ein hysgolion meddygol ac yn llenwi’r llefydd hyn cystal ag y gallwn gyda phobl sydd wedi tyfu i fyny yn ein trefi a’n pentrefi. Byddant yn fwy tebygol o aros a gallant fod yn feddygon mwy effeithiol.
Statws coch
Yn olaf, rydw i ar alwad heddiw. Dros y 3 mis diwethaf, mae fy ysbyty wedi bod ar goch yn barhaol. Bob bore rydw i’n cael e-bost: does dim gwelyau yn yr uned gofal critigol, dim gwelyau yn yr uned strôc na gwelyau yn yr uned triniaeth ddwys. Mae tair ward yn llawn cleifion sy’n feddygol ffit i adael yr ysbyty. Ar ben hyn, mae’n debygol y bydd rheolau hunanynysu COVID-19 yn effeithio ar o leiaf un meddyg y sifft – efallai fod gan y meddyg neu ei blentyn COVID-19. Mae ysbytai cyfagos mewn sefyllfa debyg. Yn ystod fy sifft ddiwethaf ar alwad, gofynnodd yr ysbyty i’r gorllewin am gael trosglwyddo saith claf tra oedd ein cleifion ni’n cael eu hailgyfeirio i’r ysbyty i'r dwyrain am gwpl o oriau. Dw i’n siŵr bod fy lefelau cortisol yn codi dim ond ysgrifennu hyn i lawr.
Fodd bynnag, dydw i ddim yma i feddwl am hyn heddiw. Heddiw, rydw i’n canolbwyntio fy holl sylw, fy ngwybodaeth a fy mhrofiad ar y bobl sy’n dod drwy ddrysau’r ysbyty i gael gofal. Beth mae’r hanes yn ei awgrymu? Beth mae’r profion yn ei ddangos? Beth yw’r diagnosis? Pa brofion ac arbenigwyr eraill sydd eu hangen? Oes modd rhyddhau’r unigolyn yn ddiogel o’r ysbyty? Ni allaf adael i’r wybodaeth rydw i’n ei chael am bwysau ar ysbytai ddylanwadu ar yr hyn rydw i’n ei wneud ar gyfer y bobl sy’n dod o dan fy ngofal heddiw. Rydw i’n dda am wneud hyn ond rydw i’n gwybod nad ydw i’n gwneud y penderfyniadau iawn drwy’r amser. Yr hyn sy’n dod i mewn dylai ddylanwadu ar fy nghyfradd rhyddhau, nid unrhyw beth arall.
Mae’r newid hwn mewn ffocws, o ffocws eang i gul, o ffocysu ar y rhanbarth a’r ysbyty i ffocysu ar yr unigolyn, ac yna’n ôl eto, yn sgil y mae angen i feddygon ei ddatblygu wrth iddynt symud ymlaen o fod yn hyfforddeion arbenigol i fod yn ymgynghorwyr, ac nid wyf wedi gweld hyn yn cael ei gydnabod mewn cyfarfodydd arweinyddiaeth neu hyfforddi, na gan dîm rheoli’r ysbyty. Serch hynny, rydyn ni fel meddygon yn ei wneud bob dydd, yn isymwybodol neu fel arall.
Mae’n well i mi fynd i lawr i’r uned dderbyn.
Dr Sam Rice
Cynghorydd rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer de orllewin Cymru
Meddyg ymgynghorol ym maes diabetes ac endocrinoleg
Digwyddiadau a newyddion
Mae’r Gynhadledd ym maes meddygaeth 2021 a drefnwyd gan dîm Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru dal ar gael i’w gwylio ar RCP Player am gyfnod cyfyngedig. Gyda 27 o siaradwyr ar draws 6 sesiwn, dyma un o’n cynadleddau mwyaf amrywiol eto! Ond brysiwch, dim ond tan 8 Mawrth 2022 y bydd y cynnwys ar gael.
Mae cynhadledd flynyddol Coleg Brenhinol y Meddygon yn ôl! Eleni, bydd Medicine 2022 yn cael ei chynnal yn Llundain, Lerpwl ac ar-lein rhwng 31 Mawrth a 1 Ebrill. Dros y 2 ddiwrnod, bydd cynrychiolwyr yn dod at ei gilydd, yn ailgysylltu ac yn edrych ar bynciau clinigol ac anghlinigol. Bydd y sesiynau hefyd yn pwysleisio’r angen i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Ewch i wefan Medicine 2022 i gael rhagor o wybodaeth ac i archebu.