Ym mlog y mis yma, mae Dr Olwen Williams, is-lywydd RCP Cymru yn trafod arweinyddiaeth dosturiol ac yn annog cymrodyr ac aelodau i gwblhau cyfrifiad RCP 2022, cyn myfyrio ar gyfraniad enfawr meddygon SAS i weithlu’r GIG.
Wrth i dywydd oerach agosáu, a ‘phwysau’r gaeaf’ yn codi ei ben, ynghyd â’r posibilrwydd o gynnydd mewn cyfraddau achosion COVID a’r bygythiad o frigiad mewn achosion o’r ffliw, rwyf wedi bod yn myfyrio ar effaith arweinyddiaeth – arweinyddiaeth dosturiol, i fod yn fanwl gywir. Yr hyn sydd ei angen arnom, yn fwy nag erioed, yw arweinwyr sydd â’r gallu i ganolbwyntio ar berthnasoedd trwy wrando’n ofalus, deall a chydymdeimlo â phobl eraill a’u cefnogi. Pa mor aml ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, eich parchu a'ch bod yn cael gofal? A ydych yn ymwybodol, er mwyn cyrraedd eich potensial a gwneud eich gwaith gorau, eich bod angen cael eich trin yn dosturiol? Yr uchelgais yw y bydd arweinwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru erbyn 2030, yn dangos arweinyddiaeth gyfunol a thosturiol; cynllun uchelgeisiol, ond gallwn ni i gyd ddechrau drwy fabwysiadu ymddygiad tosturiol a chydweithio drwy’r hyn a allai fod yn aeaf anodd, a thu hwnt i hynny.
Amlygodd cyfrifiad 2021 o feddygon ymgynghorol a hyfforddeion arbenigedd uwch yn y DU fod y ffordd y mae meddygon am weithio wedi newid dros y 10 mlynedd diwethaf – mae 20% o hyfforddeion arbenigedd uwch a 21% o feddygon ymgynghorol yng Nghymru bellach yn gweithio’n llai nag amser llawn. A yw hyn yn arwydd ein bod yn tyfu’n fwy hunan dosturiol? Mae arnaf ofn nad ydym. Ni ddefnyddiodd dros hanner (55%) y meddygon ymgynghorol yng Nghymru eu holl wyliau blynyddol y llynedd ac, ar gyfartaledd, buont yn gweithio 10%–20% yn fwy na’u horiau contract oherwydd llwyth gwaith clinigol.
Ar y nodyn hwnnw, rwy’n eich annog i gyd i gwblhau cyfrifiad meddygon ymgynghorol ac SAS 2022. Mae’r prosiect blynyddol hollbwysig hwn yn ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol a lobïo am newid ar eich rhan. Cadwch lygad am eich e-bost gan dri choleg brenhinol y meddygon (CBM), a fydd yn caniatáu ichi gael mynediad i'ch ffurflen bersonol gan ddefnyddio URL unigryw (na ddylid ei drosglwyddo i'ch cydweithwyr). Os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut rydyn ni'n defnyddio'r data, ewch i dudalen cyfrifiad 2021 . Os nad ydych wedi derbyn eich e-bost, neu’n cael trafferth cael mynediad i’ch ffurflen, cysylltwch â mwucensus@rcp.ac.uk.
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethon ni ddathlu Diwrnod Osteoporosis y Byd. Roeddwn yn falch iawn o siarad â Chynhadledd Llywodraeth Cymru ar Iechyd Esgyrn yng Nghaerdydd am y gwaith gwych a wneir gan y Rhaglen Archwilio Toresgyrn o achos Cwymp ag Eiddilwch a reolir gan CBM yn Llundain, a chyfwelwyd Dr Gwenan Huws ar BBC Radio Cymru ac ar S4C am gynlluniau i wella gwasanaethau cyswllt torri esgyrn.
Rydyn ni wedi bod yn brysur yn lledaenu ein negeseuon! Cyfarfûm â Dr Iona Collins, cadeirydd Cyngor Cymru newydd BMA Cymru Wales y mis hwn. Gwnaethom drafod blaenoriaethau a rennir, gan gynnwys cefnogi'r gweithlu meddygol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac afiechyd. Fe wnaeth CBM hefyd gynnal gweithdy ar-lein ar fodelau newydd o ofal integredig yng Nghymru, a fynychwyd gan fyrddau partneriaeth ranbarthol, colegau brenhinol a chyrff proffesiynol perthynol - bydd canfyddiadau ac argymhellion yn dilyn. Hefyd, dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cyhoeddi rhai straeon newyddion da yn dilyn ein hymweliadau ag Ysbyty Glan Clwyd, ac ysbytai’r Tywysog Philip a Glangwili, gyda lansiad dau adroddiad Cyswllt newydd. Cadwch lygad amdanynt!
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi sefydlu rhwydwaith SAS CBM Cymru Wales, sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn ac wedi cynnwys meddygon o amrywiaeth o arbenigeddau eraill yn ogystal â ffisigwyr. I ddarganfod mwy, cysylltwch â Lowri.Jackson@rcp.ac.uk. Mae ein hadroddiad diweddar, Dewis cadarnhaol o yrfa, yn tynnu sylw at ein gweithredoedd arfaethedig yng Nghymru a bydd sesiwn friffio ddilynol yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n falch iawn bod Arweinydd SAS CBM Dr Jamie Read bellach yn ddeon addysg feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio gyda Dr Jacob Daniel a'n tîm i ddylanwadu ar newid ar lefel genedlaethol.
Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach y dyddiau hyn, oherwydd mae Adroddiad diweddar gan Y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi amlygu y bydd meddygon staff, meddygon cyswllt arbenigaeth ac arbenigedd (SAS) a meddygon a gyflogir yn lleol (LE) yn ffurfio'r grŵp mwyaf yn y gweithlu meddygol erbyn 2030, yn fwy na meddygon mewn hyfforddiant. Mae CBM yn gweithio i gefnogi ein cydweithwyr SAS i ddatblygu eu gyrfaoedd a gwarchod eu hamser ar gyfer cyfleoedd addysg, ymchwil ac arweinyddiaeth. Yn bersonol, rwy'n ddyledus iawn i ddwsinau o feddygon SAS yr wyf wedi gweithio gyda nhw dros y 40 mlynedd diwethaf. Maent wedi cyfoethogi fy mywyd gwaith. Diolch i chi i gyd.
Dr Olwen Williams
Is-lywydd RCP Cymru
Ymgynghorydd mewn iechyd rhywiol a meddygaeth HIV
Newyddion a Digwyddiadau
Seremoni Aelodau Newydd a Chymrodyr Cymru a Diweddariad mewn Meddygaeth - Caerdydd
Ydych chi'n Gymrawd CBM nad yw wedi mynychu seremoni yn Llundain eto? Efallai eich bod chi'n hyfforddai sydd wedi pasio eu Haelodaeth Coleg Brenhinol y Meddygon (MRCP [DU]) yn ddiweddar? Rydym yn cynnal seremoni ar y cyd yng Nghaerdydd ar 23 Tachwedd i ddathlu eich cyflawniadau gydag aelodau a chymrodyr newydd o bob cwr o'r byd. Bydd y seremoni unigryw yn dod â meddygon a'u gwesteion ynghyd â holl rwysg a rhodres ein seremonïau yn Llundain, ynghyd ag adloniant cerddorol a derbyniad. Gall aelodau archebu eu lle yma a dylai cymrodyr newydd e -bostio Wales@rcp.ac.uk i gael eu dolen archebu. Beth am aros dros nos a mynychu'r Diweddariad mewn meddygaeth - Caerdydd yn yr un lleoliad y diwrnod canlynol? Mae gennym raglen wych gydag ystod eang o bynciau.
Cymrodoriaethau gordewdra
Mae CBM bellach yn cynnig tair cymrodoriaeth gordewdra blwyddyn a ariennir yn llawn. Bydd y cymrodoriaethau'n cael eu cynnal gan sefydliadau'r GIG sy'n darparu gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol, ac a fydd yn darparu ystod eang o hyfforddiant mewn meddygaeth gordewdra. Mae cyllid ar gael i gwmpasu cyflogau ac absenoldeb astudio i feddygon sydd heb Dystysgrif Cwblhau Hyfforddiant (CCT). Rhannwch gyda chydweithwyr sydd â diddordeb.
Adroddwch eich profiadau i'r BMA
Yn ddiweddar, mae BMA Cymru Wales wedi lansio porth gwe newydd sbon i gasglu profiadau meddygon a staff gofal iechyd yng Nghymru.
Hyfforddai Meddygaeth Fewnol (IMT) yn dod yn Ddarlithydd Turner-Warwick
Mewn blog newydd, mae Dr Alex Phillips, Darlithydd Turner-Warwick ar gyfer Cymru 2020, yn siarad am ei phrofiad gyda’r cynllun darlithydd fel hyfforddai meddygaeth fewnol (IMT) a sut mae wedi ysbrydoli ei gyrfa.
Ein canllaw hollgynhwysol ar gyfer gyrfa gynnar hyfforddai mewn meddygaeth
Mae Digwyddiad Arddangos Gyrfaoedd Meddygaeth CBM yn cynnig cyfle i fyfyrwyr meddygol, meddygon blwyddyn sylfaen a hyfforddeion archwilio’r cyfoeth o opsiynau gyrfa sydd ar gael iddynt fel darpar feddygon. Yn digwydd 30 Ionawr - 3 Chwefror 2023, bydd gan gynrychiolwyr fynediad at sesiynau byw, yn ogystal â mwy na 30 o fideos arbenigol a bywgraffiadau gyrfa, pob un yn cynnig cyngor ac arweiniad am ehangder pob arbenigedd meddygol. Archebwch eich lle nawr.