Mae’r gwanwyn yn gyfnod o lawenydd, diolch i’r tywydd cynhesach, blodau ar y coed, ŵyn yn prancio yn y caeau a llu o flodau gwyllt. Mae’n gyfnod o adnewyddu, adfywio a dathlu.
Yn unol â thraddodiad, cyhoeddwyd canlyniad etholiad llywyddol Coleg Brenhinol y Meddygon ar y dydd Llun cyntaf ar ôl Sul y Blodau. Wythnos diwethaf, fe wnaethom ni’r ymgeiswyr dderbyn ein tynged a disgwyl am ganlyniad y siwrnai chwe mis roeddem i gyd wedi’i chymryd gyda’n gilydd. Roedd hi’n broses drwyadl ac roedd pob un ohonom ar bigau’r drain. Byddai pob un o’r ymgeiswyr wedi bod yn llywydd ardderchog. Erbyn nawr byddwch chi’n gwybod bod yr Athro David Oliver wedi cael ei ethol, ac ar ran tîm Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru, rwyf wedi’i longyfarch a’i wahodd i ymweld â ni yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch iawn o groesawu Dr Hilary Williams ar Gyngor Coleg Brenhinol y Meddygon a Dr Melanie Nana fel cadeirydd newydd Pwyllgor Hyfforddi Coleg Brenhinol y Meddygon.
Mae’r gwanwyn hefyd yn dod â nifer o wyliau banc, sy’n hunllef o ran gofal heb ei drefnu, ond roedd hi’n galonogol cael cwrdd yn ddiweddar â Dr Jo Mower, cyfarwyddwr clinigol cenedlaethol gofal brys ac mewn argyfwng, i drafod llawlyfr polisi newydd Llywodraeth Cymru, 6 nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng. Mae’r digwyddiad lansio ar 27 Ebrill yn agored i bawb – cofrestrwch yn Saesneg neu yn Gymraeg!
Mae cynnig rhagor o leoedd mewn ysgolion meddygol yn allweddol i gynaliadwyedd y gweithlu meddygol yn y dyfodol. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â’r Athro Steve Riley, pennaeth yr ysgol feddygaeth yng Nghaerdydd a Kamila Hawthorne, pennaeth mynediad graddedigion ar gyfer meddygaeth yn Abertawe. Fe wnaethon nhw roi gwybodaeth go iawn am y twf mewn lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, ac fe wnaethom drafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu GIG Cymru, yn enwedig o ran lleoliadau clinigol.
Mae’n ymddangos y dylai nifer y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru gynyddu tua 50% dros y pum mlynedd nesaf, sy’n newyddion rhagorol. Mae angen i ni nawr wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y myfyrwyr meddygol hynny’n aros yng Nghymru i gael yr hyfforddiant ôl-radd o’r ansawdd uchaf ar ôl graddio. Mae cynlluniau fel Rhaglen Prif Gofrestrwyr Coleg Brenhinol y Meddygon yn rhoi amser wedi’i neilltuo ar gyfer arweinyddiaeth glinigol a gwella ansawdd i feddygon sy’n gweithio ar lefel ST4 ac uwch. Edrychwch i weld os yw eich sefydliad GIG chi yn cymryd rhan eleni.
Rwy’n falch iawn o ddweud bod cystadleuaeth posteri rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon wedi dychwelyd! Mae’r gwobrau’n cynnwys lle rhithwir am ddim yng nghynhadledd flynyddol Coleg Brenhinol y Meddygon yn 2023, bod yn rhan o grynodeb digidol, a thystysgrif dyfarniad. Bydd pob poster yn cael ei ystyried ar gyfer ei gyhoeddi yn un o’n cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid. Dylid cyflwyno crynodebau erbyn dydd Sul 12 Mehefin 2022.
Wrth sôn am gynadleddau, ydych chi wedi archebu eich lle yn Diweddariad ar feddygaeth Cymru eto? Fedra i ddim dweud wrthych chi cymaint rwy’n edrych ymlaen at weld llawer ohonoch yn bersonol. Rydyn ni wrthi’n llunio’r rhaglen derfynol ac yn trefnu’r siaradwyr – archebwch eich absenoldeb astudio heddiw! Byddwn yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd ar 24 Tachwedd rhwng 9am a 5pm gyda’ch cyfle cyntaf i gwrdd â’r llywydd newydd, yr Athro David Oliver, a gofyn cwestiynau iddo yn ystod y fforwm agored gyda swyddogion y coleg. Peidiwch â cholli’r cyfle!
Y tro diwethaf i ni gynnal seremoni aelodau a chymrodorion yng Nghymru fel rhan o ddathliadau RCP500 yn 2018; roedd yn ddigwyddiad hyfryd. Bydd y seremoni eleni’n cael ei chynnal y diwrnod cyn y Diweddariad ar feddygaeth ac mae’n addo bod yn ddathliad gwych o deulu Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru. Os ydych chi’n aelod newydd (neu’n adnabod cydweithwyr sydd wedi pasio eu MRCP yn ddiweddar) neu’n gymrawd a ddim wedi bod mewn seremoni yn Llundain, cysylltwch â’r tîm i gael rhagor o wybodaeth.
Yn olaf, wrth i gyfyngiadau COVID-19 lacio ac wrth i’r byd ailagor, rydyn ni’n ailddechrau ymgysylltu â’n haelodau wyneb yn wyneb, gan roi cychwyn da i bethau yng ngogledd Cymru ar 10 Mehefin gyda digwyddiad rhanbarthol Cyswllt RCP Connect cyntaf 2022. Ymunwch â ni’n bersonol yn Ysbyty Glan Clwyd, neu dros Teams – cysylltwch â’r tîm i gael rhagor o wybodaeth. Yn nes ymlaen eleni, byddwn yn ymweld â gorllewin Cymru – manylion i ddilyn.
Byddaf yn mwynhau gwyliau byr dros y Pasg gyda’r traddodiad o blannu tatws ar Ddydd Gwener y Groglith! Beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, cymrwch ofal a chadw’n ddiogel.
Dr Olwen Williams OBE
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru
Meddyg ym maes iechyd rhywiol a meddygaeth HIV