Wrth edrych yn ôl ar fis Pride, mae Dr Olwen Williams, is-lywydd RCP Cymru yn trafod gwelededd, cynwysoldeb ac amrywiaeth mewn meddygaeth, ac yn tynnu sylw at ddigwyddiadau RCP sydd ar ddod yng Nghaerdydd.
Wrth i ni ddod i ddiwedd mis Balchder, rydw i wedi bod yn pwyso a mesur pwysigrwydd amlygrwydd, cynhwysiant ac amrywiaeth ym maes meddygaeth a sut mae ein hagweddau, ein rhagfarnau anymwybodol a’n gweithredoedd yn gallu cael effaith gadarnhaol a negyddol ar ein cleifion. O blith gwledydd y DU, Cymru sydd â’r ganran uchaf o unigolion sydd wedi cael diagnosis hwyr o haint HIV. Yn ddiddorol, mae’r unigolion hyn yn fwy tebygol o fod yn hŷn ac yn heterorywiol. Pam nad ydym yn cynnig profion HIV iddyn nhw?
Mae fersiwn drafft cynllun gweithredu HIV Cymru 2022 i 2026 bellach yn destun ymgynghoriad – anfonwch eich adborth at Lywodraeth Cymru. Y nod yw dileu achosion newydd o HIV yng Nghymru erbyn 2030 a rhaid i bob un ohonom chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni hyn. Yn y cyfamser, byddaf yn mynd i ddigwyddiad Balchder Gogledd Cymru i hyrwyddo gallu cael gafael ar arbrofion HIV a PrEP.
Mae Monkeypox yn parhau i fod yn bryder. Er mai dim ond ychydig o achosion y mae Cymru wedi’u gweld, mae’n bwysig ein bod yn wyliadwrus, gan nad ydym am i’r cyflwr droi’n endemig. Mae cynllun adnabod, rheoli a brechu ar waith ac mae pob bwrdd iechyd wedi datblygu cynllun wrth gefn.
Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi canllawiau diwygiedig ar benodi meddygon ymgynghorol, sy’n ategu’r angen i’r coleg brenhinol gymryd rhan yn y broses yn gynnar, o gymeradwyo disgrifiadau swydd i fod yn aelod o’r pwyllgor penodi. Cysylltwch â’ch cynghorydd rhanbarthol lleol cyn gynted ag y byddwch yn gwybod bod swydd newydd yn cael ei chynllunio: gorau po gyntaf i ni gael gwybod am swydd, fel y gallwn fynd ati i’w chymeradwyo. Mae Coleg Brenhinol y Meddygon wedi arwain y gwaith hwn gyda Llywodraeth Cymru ar ran Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru, a hoffem glywed gennych os oes gennych chi unrhyw bryderon: Lowri.Jackson@rcp.ac.uk.
Mae Academi Colegau Meddygol Brenhinol y DU wedi cyhoeddi Canllaw Arfarnu Meddygol 2022 (MAG). Hoffwn hefyd eich atgoffa o ymgynghoriad y Cyngor Meddygol Cyffredinol Ymarfer Meddygol Da, sy’n cau 20 Gorffennaf.
Cofiwch archebu eich lle ar gyfer Diweddariad ar Feddygaeth Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghaerdydd ar 24 Tachwedd. Dyma ein cynhadledd wyneb yn wyneb gyntaf ers 2019 ac mae gennym restr gyffrous o siaradwyr i chi! Rydyn ni hefyd yn cynnal ein hail seremoni aelodaeth yma yng Nghymru ar 23 Tachwedd, felly os ydych chi wedi dod yn aelod o Goleg Brenhinol y Meddygon yn ddiweddar neu wedi pasio MRCP, ymunwch â ni mewn dathliad unigryw.
Os oes potyn o aur ym mhen draw ben pob enfys, mae gen i ofn nad ydw i wedi dod o hyd i un eto, ond rydw i’n dal i fod yn optimistaidd.
Dr Olwen Williams
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru
Meddyg ym maes iechyd rhywiol a meddygaeth HIV
Digwyddiadau aelodaeth
Fforwm Meddygon Ymgynghorol Cymru (rhith) – 20 Medi 2022
Yn ein fforwm blynyddol ar gyfer meddygon ymgynghorol newydd Cymru, bydd Christopher Saunders, ysgrifennydd cynorthwyol BMA Cymru Wales, yn ymuno â ni i siarad am gynllunio swyddi a chontract meddygon ymgynghorol Cymru. Bydd Dr Ruth Alcolado, cyfarwyddwr meddygol Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn trafod ‘y darlun ehangach o ddiogelwch cleifion a sut rydych chi’n gwybod bod eich gwasanaethau yn ddiogel’. Mae’r fforwm ar agor i bob meddyg ymgynghorol newydd yn ystod y 5 mlynedd gyntaf yn y swydd, meddygon SAS a chofrestryddion yn eu blwyddyn olaf o hyfforddiant. Mae am ddim i aelodau sy’n tanysgrifio i Goleg Brenhinol y Meddygon ac mae’n cynnig 2 gredyd DPP. Archebwch Nawr
Seremoni ar y cyd i aelodau newydd a chymrodorion - Cymru – 23 Tachwedd 2022
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer pob aelod a chymrawd newydd sydd heb fynychu seremoni yn Llundain. Bydd aelodau a chymrodorion newydd yn cael eu diploma yn ystod dathliad unigryw o’u cyflawniadau. Bydd y dathliadau wedi’u trefnu o gwmpas thema Cymru. Yn ogystal â’r seremoni ffurfiol, bydd adloniant cerddorol a derbyniad i ddathlu’r achlysur. Gall aelodau newydd archebu nawr. Dylai cymrodorion newydd anfon e-bost at Wales@rcp.ac.uk i gael dolen arbennig i archebu lle. Croesewir gwesteion.
Diweddariad ar Feddygaeth - Caerdydd – 24 Tachwedd 2022
Yn dilyn ein seremoni ar y cyd i aelodau a chymrodorion byddwn yn cynnal ein Diweddariad ar Feddygaeth wyneb yn wyneb cyntaf ers mis Tachwedd 2019. Ymunwch â ni wyneb yn wyneb ar 24 Tachwedd 2022 ar gyfer rhaglen gyffrous, a fydd yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau gan feddygon blaenllaw ledled Cymru.