Home » News » Yma o hyd | cymuned fyd-eang | dechreuadau newydd

Yma o hyd | cymuned fyd-eang | dechreuadau newydd

Yn ei blog y mis yma, mae Dr Olwen Williams yn edrych yn ôl ar atgofion ein Diweddariad mewn meddygaeth Cymru 2022. Hefyd, mae hi’n tynnu sylw at bwysigrwydd gofalu am eich iechyd meddwl yn ystod pwysau’r gaeaf ac yn agor yr alwad am enwebiadau ar gyfer ei holynydd fel is-lywydd RCP Cymru.

Weithiau mae angen rhywbeth i dynnu ein sylw, i roi gobaith i ni a’n diddanu mewn cyfnod tywyll – felly gobeithio y bydd Cwpan y Byd Dynion FIFA yn Qatar yn codi ysbryd pobl. Er y siom oherwydd y canlyniad yn erbyn Iran yr wythnos diwethaf (ac ar adeg ysgrifennu, nid ydym yn gwybod canlyniad y gêm yn erbyn Lloegr) mae camp Cymru wrth gyrraedd y twrnamaint am y tro cyntaf ers 64 mlynedd yn dal yn rhywbeth i’w dathlu!

Ym mis Tachwedd hefyd cynhaliwyd ail wythnos swyddogol profion HIV Cymru, a lansiwyd i fynd i’r afael â stigma a chael pobl o bob oed a chefndir i brofi’n rheolaidd. Datblygwyd y digwyddiad gan ymgyrchwyr HIV o Fast Track Caerdydd a’r Fro. Mae'r gwasanaeth profi drwy'r post yn cynnig profion ar gyfer clamydia, gonorea, HIV, siffilis, hepatitis B a hepatitis C. Os ydym am ddileu achosion newydd o HIV a feirysau a gludir yn y gwaed erbyn 2030, dylai pawb gael mynediad cyfartal at brofion.

Roeddwn wrth fy modd yn croesawu mwy na 200 o gynrychiolwyr i Ddiweddariad mewn meddygaeth Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP) yng Nghaerdydd eleni, a werthodd bob tocyn. Roedd ein cynhadledd bersonol gyntaf ers 2019 yn wledd o wybodaeth ac ysbrydoliaeth, gyda darlith Bradshaw yn cael ei thraddodi eleni gan ar imiwnotherapi canser gan yr Athro Awen Gallimore. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r holl siaradwyr, trefnwyr a’r cynrychiolwyr am wneud y diwrnod yn un mor llwyddiannus. Gallwch ddilyn y sgyrsiau ar Twitter yn @RCPWales neu ddefnyddio’r hashnod #RCPUpdate. Rwy’n hoffi meddwl bod agor fy nghynhadledd olaf fel is-lywydd mewn het bwced pêl-droed Cymreig wedi rhoi golygfa gofiadwy i bawb! 

Y diwrnod cyn ein Diweddariad, roedd yn brofiad tu hwnt o deimladwy i groesawu’r ail seremoni erioed i gymrodyr ac aelodau newydd i'w chynnal y tu allan i Lundain. Croesawyd cynrychiolwyr o Sri Lanka, Iran, Irac, India, Lloegr ac, wrth gwrs, Cymru, a derbyniwyd 16 o ddiplomyddion MRCP (DU) a 27 o gymrodyr newydd i gymuned wirioneddol fyd-eang. Darparodd y perfformwyr Nathaniel Alcolado ac Alex Sweet yr adloniant cerddorol tra mwynhaodd gwesteion dderbyniad gyda'r nos gyda rhwydweithio a dathlu. Darllenodd y gwestai arbennig Dr Helen Lane FRCP, meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, o’i chasgliad barddoniaeth teimladwy, Reflections through the waves: poems of the pandemic. Roedd yn brofiad gwych, gan gyfuno rhwysg a rhodres seremoni yn Llundain gyda chynhesrwydd a chymuned digwyddiad Cymreig, ac roeddwn yn falch iawn o groesawu pob un ohonoch i deulu’r RCP.

Yn ddiweddar, cefais y pleser mawr o fod yn un o’r beirniaid ar gyfer cystadleuaeth poster RCP Cymru Wales 2022. Yr enillydd oedd Dr Jenny Coventry (‘Prosiect gwella ansawdd aml-gylch i wella cyfran y ffurflenni Na Cheisier Dadebru [DNAR] a drafodir gyda pherthynas agosaf cleifion’) a derbyniodd Dr Anna Hesseling gymeradwyaeth uchel hefyd ('A yw'r pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar amlder a difrifoldeb atgyfeiriadau anorecsia nerfosa mewn pobl ifanc?'). Rydym yn bwriadu arddangos gwaith caled ein meddygon wrth hyfforddi cymaint â phosibl yn ein hadroddiadau a'n sesiynau briffio dros yr ychydig fisoedd nesaf.

Gan symud ymlaen, roeddwn am dynnu sylw at lythyr diweddar i’r system a lofnodwyd gan bob un o’r pedwar prif swyddog meddygol, a oedd yn diolch i feddygon am eu ‘proffesiynoldeb parhaus a’u gwaith caled’ ac yn rhybuddio am ‘alw ychwanegol parhaus [sy’n debygol] o gael ei waethygu gan brinder staff' dros y gaeaf sydd i ddod, wrth roi sicrwydd i bobl 'os digwydd i chi gael eich cyfeirio at eich rheolydd proffesiynol, byddant yn ystyried y cyd-destun yr oeddech yn gweithio ynddo ar y pryd, gan gynnwys yr holl adnoddau, canllawiau neu brotocolau perthnasol.' Mae’r ymyriad anarferol hwn yn arwydd o bryderon eang am y pwysau a fydd yn wynebu’r GIG y gaeaf hwn. Mae angen i ni gyd gadw golwg ar ein gilydd – wedi’r cyfan, mae’n iawn i beidio â bod yn iawn – dylai fod gan bob un o’n byrddau iechyd gymorth llesiant staff ar gael, a gall staff y GIG hefyd gael mynediad at gymorth iechyd meddwl rhad ac am ddim.

Mae'r RCP yn ymwybodol iawn o'r heriau a wynebir gan ein haelodau a'n cymrodyr. Mae cyfrifiad 2022 o feddygon ymgynghorol a meddygon arbenigol ac arbenigol cyswllt (SAS) yn eich holi am eich llwyth gwaith a’ch lles, a gallwn ddefnyddio’r canlyniadau hyn i gyflwyno’r achos dros newid gyda llywodraeth Cymru, felly cofiwch ei lenwi.

Mae’n blog gwadd wythnos yma gan Dr Inderpal Singh, geriatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn ne-ddwyrain Cymru, sy'n gyfrifol am wasanaeth cwympiadau ac iechyd esgyrn Caerffili. Fel yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cwympiadau ac eiddilwch, mae’n rhannu ei weledigaeth ar gyfer gwella iechyd esgyrn drwy gydweithio agosach rhwng llywodraeth Cymru, byrddau iechyd a’r trydydd sector.

I orffen, dyma fy Nadolig olaf yn y swydd. Byddaf yn rhoi’r gorau iddi yn y gwanwyn ar ôl 3 blynedd brysur iawn fel is-lywydd Cymru. Ni allaf argymell y profiad ormod: dros y ddegawd diwethaf, mae eich tîm RCP Cymru Wales wedi cryfhau llais y meddygon a’n cydweithwyr. Rydym yn llais blaenllaw y gellir ymddiried ynddo yn y cyfryngau Cymreig, ac yn rhanddeiliad allweddol i wleidyddion ac arweinwyr y GIG. Mae enwebiadau bellach wedi agor ar gyfer penodi fy olynydd, felly os hoffech chi ddarganfod mwy am rôl sy’n aml yn heriol, weithiau’n frawychus, ond bob amser yn werth chweil ac yn ddiddorol, mae croeso i chi gysylltu â mi am sgwrs anffurfiol.

Cadwch yn ddiogel.

Dr Olwen Williams
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru