Gwybodaeth am Goleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru.
Swyddfa genedlaethol Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru
Mae cymrodorion ac aelodau yng Nghymru yn cael eu cefnogi gan is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru, ymgynghorwyr rhanbarthol a hyfforddi'r Coleg, a thîm o staff y Coleg. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â thiwtoriaid coleg a chydweithwyr eraill i sicrhau cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Choleg Brenhinol y Meddygon yn Llundain. Mae’r tîm yn chwarae rôl bwysig o ran cefnogi cymrodyr ac aelodau, cymeradwyo disgrifiadau swydd, cymryd rhan yn y broses o sgorio dyfarniadau rhagoriaeth glinigol a chymeradwyo datblygiadau proffesiynol parhaus.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith polisi a materion cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru ynghyd â digwyddiadau addysgol a hyfforddi.
Dr Gareth Llewelyn, is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru
Dr Gareth Llewelyn, sy'n niwrolegydd ymgynghorol, yw is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru. Ef sy'n arwain gwaith polisi a materion cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru, gan ymgysylltu ar ran cymrodyr ac aelodau Coleg Brenhinol y Meddygon â Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a GIG Cymru.
Yn dilyn ei etholiad, dywedodd Dr Llewelyn:
Mae toriadau mewn cyllid wedi cynyddu pwysau gwaith ar draws y GIG, ac ni ellir darparu gofal iechyd heb fuddsoddi yn y gweithlu. Mae angen i glinigwyr arwain newidiadau, a gall gofal sylfaenol, gofal eilaidd ac iechyd cyhoeddus weithio ar y cyd i edrych ar fodelau newydd o ofal integredig sy’n canolbwyntio ar y claf mewn ardaloedd trefol a gwledig.
Mae angen i ni hefyd adolygu’r recriwtio a’r llwyth gwaith ym mhob arbenigedd, yn ogystal ag adolygu’r cynllun gweithlu cenedlaethol; mae angen i Gymru hyrwyddo’i hun fel lle deniadol i astudio meddygaeth, i gyflawni hyfforddiant o safon uchel ac i ddatblygu fel arweinwyr clinigol.
Manylion cyswllt
Coleg Brenhinol y Meddygon Cymru
Tŷ Baltic
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FH
Anfonwch unrhyw ymholiadau cyffredinol at wales@rcplondon.ac.uk.
Lowri Jackson, uwch gynghorydd polisi a materion cyhoeddus, sy’n arwain ar bolisi, materion cyhoeddus ac ymholiadau gan y cyfryngau yng Nghymru. Ffoniwch +44 (0)7557 875119 gydag unrhyw geisiadau gan y cyfryngau.
Gall swyddfa Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru eich helpu gyda chwestiynau am gymeradwyo disgrifiadau swydd, enwebu cymrodyr, gweinyddu dyfarniadau rhagoriaeth glinigol a datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer aelodau a chymrodyr yng Nghymru. Gellir cysylltu â Jacqui Sullivan, y rheolwr rhanbarthol ar +44 (0)29 2049 4737 neu Sarah Jordan, y rheolwr rhanbarthol dirprwy ar +44 (0)29 2049 8712.
I gymeradwyo disgrifiadau swydd, anfonwch e-bost at wales@rcplondon.ac.uk. Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch cynllunio swyddi ar gael gan y Pwyllgorau Ymgynghorol ar Benodiadau (AAC).
Swyddogion Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru
Dr Gareth Llewelyn
Is-lywydd Coleg Brenhinol y Meddygon dros Gymru
Gareth.Llewelyn@rcplondon.ac.uk
Dr Andrew Freedman
Ymgynghorydd Rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer De Ddwyrain Cymru
Ysbyty Athrofaol Cymru
Caerdydd
CF14 4XN
freedman@cardiff.ac.uk
Dr David Price
Ymgynghorydd Rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer De Orllewin Cymru
Ysbyty Morriston
Abertawe
SA6 6NL
David.Price@wales.nhs.uk
Dr Mick Kumwenda
Ymgynghorydd Rhanbarthol Coleg Brenhinol y Meddygon ar gyfer Gogledd Cymru
Ysbyty Glan Clwyd
Bodelwyddan
LL18 5UJ
Mick.Kumwenda@wales.nhs.uk
Staff Coleg Brenhinol y Meddygon yng Nghymru
Lowri Jackson
Uwch Gynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus dros Gymru
+44 (0)7557 875119
Lowri.Jackson@rcplondon.ac.uk
Jacqui Sullivan
Rheolwr Rhanbarthol dros Gymru a De Orllewin Lloegr
+44 (0)29 2049 4737
Jacqui.Sullivan@rcplondon.ac.uk
Sarah Jordan
Rheolwr Rhanbarthol Dirprwy dros Gymru a De Orllewin Lloegr
+44 (0)29 2049 8712
Sarah.Jordan@rcplondon.ac.uk
